Eigra Lewis Roberts | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 7 Awst 1939 ![]() Blaenau Ffestiniog ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd, dramodydd, cyfarwydd, ysgrifennwr ![]() |
Nofelwraig, dramodydd a storiwraig Cymreig ydy Eigra Lewis Roberts (ganwyd 7 Awst 1939).
Ganwyd ym Mlaenau Ffestiniog, Meirionnydd a mynychodd Ysgol Sir Ffestiniog a Choleg Prifysgol Bangor. Bu'n dysgu am gyfnod byr, yng Nghaergybi, Llanrwst a Dolwyddelan.[1]
Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Brynhyfryd, pan oedd ond yn ugain oed a chyhoeddwyd ei llyfr cyntaf yn y Saesneg, Return Ticket, yn 2006. Mae hi'n awdur nodedig sydd yn cael clod fel un o awduron pwysicaf yn y Gymraeg yn yr 60au a'r 70au[2], erbyn hyn mae wedi cyhoeddi tua 30 o lyfrau, yn nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a dramâu. Derbyniodd un o ysgoloriaethau’r Academi Gymreig ar gyfer awduron yn 2006.[3]
Yn yr 1980au roedd hi'n sgriptiwr ar y gyfres deledu boblogaidd, Minafon.[1]
Mae'n byw yn Nolwyddelan.[4]. Mae'n briod a Llew ac mae ganddi dri o blant - Sioned, Urien a Gwydion.[1]