Math | pentref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Gwyddelan |
Poblogaeth | 474, 454 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,922.21 ha |
Cyfesurynnau | 53.0424°N 3.8952°W |
Cod SYG | W04000116 |
Cod OS | SH730511 |
Cod post | LL25 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Claire Hughes (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dolwyddelan.[1][2] Saif yn Nyffryn Lledr ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Enwir y pentref ar ôl Sant Gwyddelan, nawddsant y plwyf. Mae'r A470 a Rheilffordd Dyffryn Conwy yn pasio drwy'r pentref.
Yn ymyl y pentref ar glogwyn isel y mae Castell Dolwyddelan, un o gestyll Tywysogion Gwynedd a man geni Llywelyn Fawr yn ôl traddodiad. Yma hefyd y mae Tanycastell, man geni y pregethwr John Jones, Talysarn. Ychydig yn is i lawr y dyffryn ceir safle caer Rufeinig ym Mryn-y-Gefeiliau. Ar draws y ffordd i'r ffordd fawr ceir Tomen y Castell, sef hen domen o'r Oesoedd Canol.
Un a aned yng Ngwm Wybrnant, uwchben Penmachno oedd Ellis Pierce (1841-1912), neu Elis o'r Nant, fel yr adnabyddid ef yngyffrediniol. Ymysg y pynciau y rhoddai sylw iddynt oedd hanes y tywydd yn ei gynefin, Dolwyddelan, a enwir yn 'wlad y gôg', a'i thrigolion yn 'gwcws' hyd heddiw, oherwydd chwedl hynafol am y lle. Yn ôl y chwedl, ganrifoedd ynghynt penderfynodd y cwrddplwy' i geisio cadw'r gôg yn No'ddelan drwy'r flwyddyn gan godiwal uchel o amgylch y fro.[3]
Uwchlaw'r pentref yn rhan uchaf y dyffryn mae hen bont a elwir Y Bont Rufeinig. Dywedir iddi gael ei chodi i gludo'r hen ffordd Rufeinig o Canovium (Caerhun) i Domen y Mur, gwersyll Rhufeinig ger Trawsfynydd. Mae ganddi bensaernïaeth anghyffredin iawn, gyda wyth fwa o gerrig anferth, ond ymddengys ei bod yn perthyn i'r cyfnod modern cynnar yn hytrach na'r cyfnod Rhufeinig. Mae'r hen ffordd i fyny'r dyffryn i Flaenau Ffestiniog yn ei chroesi.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Dolwyddelan (pob oed) (474) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dolwyddelan) (238) | 51.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dolwyddelan) (260) | 54.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dolwyddelan) (83) | 38.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan