Gwyneth Glyn | |
---|---|
Gwyneth Glyn yng Ngŵyl Werin y Smithsonian, 2013 Washington, D.C. | |
Ganwyd | 14 Rhagfyr 1979 ![]() Bangor ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, canwr, cyfansoddwr caneuon, ysgrifennwr ![]() |
Gwefan | http://gwynethglyn.com/ ![]() |
Bardd, llenor a cherddor Cymreig ydy Gwyneth Glyn Evans (ganed 14 Rhagfyr 1979).
Fe'i ganed yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor a magwyd yn Llanarmon, Eifionydd.
Aeth i'r ysgol yn Ysgol Gynradd Nefyn, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, cyn mynd ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Athroniaeth a Diwinyddiaeth o Goleg Yr Iesu, Rhydychen.
Ymunodd â'r band Coca Rosa and the Dirty Cousins cyn rhyddhau ei halbym gyntaf, Wyneb dros dro, ar label Slacyr yn 2005. Rhyddhawyd Tonau, ei hail albym, gan ei label hi ei hun, Recordiau Gwinllan yn 2007. Ei thrydydd albym ydy Cainc, a ryddhawyd ar y cyntaf o Fehefin, 2011, hefyd ar label Gwinllan. Yn ogystal, mae hi wedi rhyddhau sengl ar y cyd gyda Cowbois Rhos Botwnnog, Paid â Deud.
Hi oedd Bardd Plant Cymru, 2006–2007.
Mae hi hefyd yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer rhaglenni teledu. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer Rownd a Rownd, cyfres y bu'n actio ynddi pan yn iau, a hefyd mae wedi bod yn ysgrifennu sgript Pobol y Cwm.[1][2]