Bryneglwys
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth369, 338 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,447.66 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0167°N 3.2833°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000144 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ145472 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map
Am y chwarel lechi ger Abergynolwyn, gweler Chwarel Bryn Eglwys.

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych yw Bryneglwys("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif i'r gogledd-orllewin o Langollen ac i'r gogledd-ddwyrain o Gorwen, ar briffordd yr A5104. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 344.

Mae'r gymuned yn cynnwys copa Mynydd Llandysilio, i'r de o'r pentref, a Phlas yn Iâl, cartref gwreiddiol teulu Yale. Ganed hynafiaid Elihu Yale yno, yr enwir Prifysgol Yale ar ei ôl.

Eglwys Tysilio Sant, Bryneglwys.

Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf yn rhan o gwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog). Mae adeilad presennol eglwys y plwyf, sef Eglwys Tysilio Sant, yn dyddio o'r 15g ond mae'n debyg fod y safle yn hŷn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Un o golofnau pren yr eglwys

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bryneglwys (pob oed) (369)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bryneglwys) (130)
  
36%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bryneglwys) (187)
  
50.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bryneglwys) (36)
  
24%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.