Aberchwiler
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth298, 300 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,060.49 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.215°N 3.357°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000140 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ095693 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych yw Aberchwiler ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Aberwheeler). Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych, lle mae Afon Chwiler yn ymuno ag Afon Clwyd. Mae pentref Bodfari ychydig i'r gogledd.

Mae'r gymuned yn cynnwys rhan o Fryniau Clwyd; y pwynt uchaf ynddi yw copa Moel-y-Parc (398m). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 327.

Hanes

[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol, ffurfiodd Aberchwiler drefgordd plwyf hynafol Bodfari, a oedd hefyd yn cynnwys Maesmynan a Blorant. Ar un adeg roedd y faenor yn eiddo i Gwenllian. Roedd melin wedi'i lleoli yn Aberchwiler o'r canol oesoedd. Llosgwyd y felin ym 1403, er iddi gael ei phrydlesu yn ddiweddarach i Thomas Londisdale a Henry Billiger ym mis Tachwedd 1408 ar y sail eu bod yn ei hailadeiladu.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberchwiler (pob oed) (298)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberchwiler) (81)
  
27.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberchwiler) (157)
  
52.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberchwiler) (48)
  
35.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato