Tudwen | |
---|---|
Ganwyd | 5 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 21 Hydref, 27 Hydref |
Tad | Brychan |
Santes Gymreig oedd Tudwen (bl. 5g). Yn ôl yr achau traddodiadol roedd hi'n un o blant niferus Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog.[1] Ei gwylmabsant yw naill ai 21 neu 27 o Hydref.[2]
Ychydig a wyddom amdani ar wahân i'w lle yn yr achau fel un o ferched niferus Brychan a'r ffaith mai hi yw sefydlydd a nawddsant Eglwys y Santes Tudwen yn Llandudwen (cymuned Buan) yn Llŷn, Gwynedd.
Roedd Ffynnon Dudwen mewn cae ger yr eglwys ond nid yw yno erbyn heddiw. Fe'i cysegrwyd i'r Santes Tudwen. Defnyddid dŵr y ffynnon i fedyddio plant y plwyf. Roedd yn enwedig o rinweddol at iachau epilepsi, crudcymalau, diffyg teimlad yn y corff, a llygaid blinedig. Cofnodir hefyd fod priodasau dirgel yn cael eu cysegru ger y ffynnon.[3]