Math | pentref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4685°N 3.526°W |
Cod SYG | W04000651 |
Cod post | CF71 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Tregolwyn (Saesneg: Colwinston). Gorwedd i'r dwyrain o Ben-y-bont ar Ogwr, tua hanner ffordd rhwng y dref honno a'r Bont-faen.
Mae Eglwys Sant Fihangel a'r Holl Angylion yn y pentref yn adeilad cofrestedig Graddfa 1 sy'n dyddio'n ôl i'r Oesoedd Canol. Gerllaw ceir ysgol gynradd Dewi Sant a Neuadd y Pentref. Enw tafarn y pentref yw "The Sycamore Tree".[1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[3]
Mae gan Dregolwyn ei gyngor cymuned ei hun sy'n ethol un ar ddeg o aelodau. Roedd gan y pentref boblogaeth o tua 400 yn 2005.
Pentref diolchgar yw Dregolwyn - pentref heb gofeb i'r Rhyfel Byd Cyntaf, lle ddaeth pob milwr yn ôl o'r rhyfel.
Roedd y nofelwraig enwog Agatha Christie yn arfer ymweld â'r pentref yn aml ac mae rhai o'i disgynyddion yn dal i fyw yno.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Trefi
Y Barri · Y Bont-faen · Llanilltud Fawr · Penarth
Pentrefi
Aberogwr · Aberddawan · Aberthin · City · Clawdd-coch · Corntwn · Dinas Powys · Eglwys Fair y Mynydd · Ewenni · Ffontygari · Gwenfô · Larnog · Llanbedr-y-fro · Llancarfan · Llancatal · Llandochau · Llandochau Fach · Llandŵ · Llanddunwyd · Llan-faes · Llanfair · Llanfihangel-y-pwll · Llanfleiddan · Llangan · Llansanwyr · Llwyneliddon · Llyswyrny · Marcroes · Merthyr Dyfan · Ogwr · Pendeulwyn · Pen-llin · Pennon · Pen-marc · Y Rhws · Sain Dunwyd · Saint Andras · Sain Nicolas · Sain Siorys · Sain Tathan · Saint-y-brid · Sili · Silstwn · Southerndown · Trebefered · Trefflemin · Tregatwg · Tregolwyn · Tresimwn · Y Wig · Ystradowen