![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 732 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,276.03 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4057°N 3.5306°W ![]() |
Cod SYG | W04000670 ![]() |
Cod post | CF61 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Sain Dunwyd[1] (Saesneg: St Donats[2] neu English St Donats). Fe'i gelwir weithiau yn English St Donat's am fod eglwys arall gysegredig i Sant Dunwyd yn y Fro, sef Llanddunwyd (Welsh St Donat's), ger Y Bont-faen. Roedd Dunwyd yn gyfaill i Sant Cadog. Saif Yr As Fawr (Monknash) gerllaw, enw sy'n dyddio'n ôl i 1670.
Lleolir y pentref fymryn i'r gorllewin o dref fechan Llanilltud Fawr. Mae plwyf Sain Dunwyd yn cynnwys pentref Marcroes (Marcross).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[4]
Codwyd Castell Sain Dunwyd gan y teulu De Hawey yn y 12g, ar fryn ger y pentref. Heddiw mae'n gartref i Goleg yr Iwerydd (Atlantic College), sy'n ysgol breswyl ryngwladol.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Trefi
Y Barri · Y Bont-faen · Llanilltud Fawr · Penarth
Pentrefi
Aberogwr · Aberddawan · Aberthin · City · Clawdd-coch · Corntwn · Dinas Powys · Eglwys Fair y Mynydd · Ewenni · Ffontygari · Gwenfô · Larnog · Llanbedr-y-fro · Llancarfan · Llancatal · Llandochau · Llandochau Fach · Llandŵ · Llanddunwyd · Llan-faes · Llanfair · Llanfihangel-y-pwll · Llanfleiddan · Llangan · Llansanwyr · Llwyneliddon · Llyswyrny · Marcroes · Merthyr Dyfan · Ogwr · Pendeulwyn · Pen-llin · Pennon · Pen-marc · Y Rhws · Sain Dunwyd · Saint Andras · Sain Nicolas · Sain Siorys · Sain Tathan · Saint-y-brid · Sili · Silstwn · Southerndown · Trebefered · Trefflemin · Tregatwg · Tregolwyn · Tresimwn · Y Wig · Ystradowen