Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 6,663, 6,499 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 233.75 ha |
Cyfesurynnau | 53.209°N 3.042°W |
Cod SYG | W04000208 |
Cod OS | SJ305685 |
Cod post | CH5 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au | Mark Tami (Llafur) |
Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Shotton.[1] Saif ar Lannau Dyfrdwy, ac ar yr A548 rhwng Y Fflint a Queensferry, 3 milltir o'r ffîn â gogledd-orllewin Lloegr. Mae ganddi orsaf trenau ar Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru ac mae trac arall yn ei chysylltu â Wrecsam.
Cafodd y dre ei sefydlu fel pentre bach gan y Mersiaid ond newidiai ddwylo'n aml ar ôl hynny. Ni thyfodd lawer tan y 18g pan agorwyd pyllau glo yn yr ardal.
Daeth yn enwog am ei gwaith dur, a agorwyd gan Gwmni John Summers a'i Feibion, o Stalybridge. Ym 1895 prynodd Summers 40 erw ar lannau'r afon am gyfanswm o £5. Agordwyd Gwaith Dur Pont Penarlâg ym 1896, yn cyflogi 250 o dynion. Erbyn 1909, maint y safle oedd 60 erw, a chyflogwyd 3,000 o dynion cyfanswm o £6,000 yr wythnos. Cyflogwyd peirianyddion o'r Iseldiroedd i ddraenio 280 erw o gorstir ar lannau'r afon, ac estynnwyd y gwaith dur.
Gwladodwyd y dywidiant ar 15 Chwefror 1951 gan y llywodreth Lafur. Dadwladodwyd y dywidiant ar 1 Hydref 1954, a daeh perchnogaeth yn ôl i gwmni John Summers. Gwladodwyd y safle eto ym 1967.[2] Yna cafodd ei redeg gan lywodraeth Prydain dan British Steel. Erbyn hyn mae'n rhan o Grŵp Corus.
Agorwyd Pont Penarlâg yn y dref yn 1889. Lleolir Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy yno hefyd.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Shotton (pob oed) (6,663) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Shotton) (596) | 9.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Shotton) (3160) | 47.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Shotton) (1,124) | 38.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog