Math | cymuned, tref |
---|---|
Poblogaeth | 4,165, 3,969 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 959.14 ha |
Cyfesurynnau | 53.268°N 3.168°W |
Cod SYG | W04000179 |
Cod OS | SJ221752 |
Cod post | CH6 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Mark Tami (Llafur) |
Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Bagillt.[1] Saif rhwng Treffynnon (3 km i'r gorllewin) a'r Fflint (2 km i'r de-ddwyrain). Poblogaeth Cymuned Bagillt yw 3,918 (Cyfrifiad 2001).
Yn Llyfr Dydd y Farn (1086), ei enw oedd Backelie.[2] Benthyciad o'r Saesneg, wedi'i Gymreigio, yw'r enw felly. Mae Backelie yn ffurf ar y Saesneg Bacga's lea 'llannerch Bacga'.[3] Gerllaw, ceir tomen mwnt a beili o'r enw Mwnt Bryn Castell.
Tyfodd Bagillt yn gyflym yn y 19eg ganrif. Codwyd Eglwys y Santes Fair yno rhwng 1837 a 1839 fel ymateb i hynny. Poblogaeth y plwyf yn 1901 oedd 2,637.
Mae Bagillt yn enwog am greu'r rhod ddŵr enwog yn Laxey, Ynys Manaw.
Enwyd llyn ar ôl y pentref yn Chubut, Patagonia, Yr Ariannin; sef Llyn Bagillt.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[5]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Bagillt (pob oed) (4,165) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bagillt) (516) | 13% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bagillt) (2827) | 67.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bagillt) (606) | 35.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog