Llysfaen
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,743, 2,736 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd566.82 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.283°N 3.666°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000132 Edit this on Wikidata
Cod OSSH887771 Edit this on Wikidata
Cod postLL29 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auGill German (Llafur)
Map
Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at bentref ar arfordir gogledd Cymru; am yr ardal ag enw tebyg yng Nghaerdydd, gweler Llys-faen.

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Conwy, Cymru, yw Llysfaen.[1][2] Saif ar arfordir gogledd y sir, hanner milltir o'r môr tua hanner ffordd rhwng Abergele i'r dwyrain a Bae Colwyn i'r gorllewin. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Hen Golwyn, Llanddulas, Dolwen a Betws-yn-Rhos. I'r dwyrain ceir Mynydd Marian. Mae tua 2,680 o bobl yn byw yno ([1] Archived 2007-09-27 at the Wayback Machine 2005). Mae'r gymuned yn cynnwys stad Peulwys.

Heddiw mae'r pentref yn rhan o sir Conwy, ond hyd 1923 bu'n alldir o'r hen Sir Gaernarfon wedi ei amgylchu'n gyfangwbl gan yr hen Sir Ddinbych; bu'n rhan o sir Clwyd o 1974 hyd 1996. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gantref Rhos. Mae eglwys Sant Cynfran yn dyddio i'r Oesoedd Canol; yn ôl traddodiad lleol fe'i sefydlwyd gan y sant yn y flwyddyn 777.

Am gyfnod hir bu llawer o bobl y pentref yn gweithio yn chwareli calchfaen cyfagos Llysfaen a Llanddulas. Cludai llongau arfordirol y calchfaen i Lerpwl neu Fleetwood o Sieti Rayne ym Mae Llanddulas.

Ceir ysgol gynradd leol, Ysgol Cynfran, siop SPAR, neuad y pentref, a thri pharc.

Eglwys Sant Cynfran

[golygu | golygu cod]

Dywedir i'r eglwys gael ei sefydlu gan Sant Cynfran yn 777. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1377 ond mae'n cynnwys meini o'r eglwys gynharach. Yn 1870 cafodd yr eglwys ei adnewyddu'n sylweddol ar gost o £1,950 a chollwyd nifer o baneli pren canoloesol. Mae rhai o'r cofebion yn yr eglwys yn dyddio i'r 17g. Amgylchynir y llan gan wal cerrig a cheir Ffynnon Gynfran tua 100 medr i'r gogledd o'r eglwys.

Poblogaeth

[golygu | golygu cod]

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,736.[3]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llysfaen (pob oed) (2,743)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llysfaen) (552)
  
21.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llysfaen) (1691)
  
61.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llysfaen) (360)
  
34.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. City Population; adalwyd 25 Mawrth 2024
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Oriel

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]