Llanwddyn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth257 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd9,591.55 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.78476°N 3.49659°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000321 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ024191 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanwddyn[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Maldwyn ar lan ogleddol Afon Efyrnwy ger yr argae ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy. Tua hanner milltir i'r dwyrain o Llanwddyn ceir pentref Abertridwr.

Enwir plwyf Llanwddyn ar ôl Wddyn. Yn ôl traddodiad roedd y sant hwn, sydd fel arall yn anhysbys, yn feudwy a sefydlodd gell yno ac a ymwelai â chell y Santes Melangell dros y bryniau i'r gogledd ym Mhennant Melangell.[3]

Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn berchennog i’r tir o gwmpas Llyn Efyrnwy, ac mae ganddynt 3 cuddfan; 2 ar lannau’r llyn ac un, Coed y Capel, ger yr argae. Mae ganddynt hefyd swyddfa a siop gyferbyn â’r gyddfan Coed y Capel.[4]

Cynhelir Gŵyl Werin Llanwddyn yn neuadd y pentref Llanwddyn bob mis Medi.[5]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[6] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[7]

Hanes Llyn Efyrnwy

Pasiwyd Deddf Liverpool Corporation Waterworks ym 1880, a dechreuwyd gwaith adeiladu argae ym 1881. Dymchwelwyd hen bentref Llanwddyn, ac roedd y llyn yn llawn erbyn Tachwedd 1889. Adeiladwyd pentref newydd gerllaw ar gyfer preswylwyr yr hen bentref, gan gynnwys eglwys newydd, cysegredig i Sant Wddyn. Adeiladwyd gorsaf pŵer hydro-electrig ar gyfer y pentref ym 1902.

Adeiladu'r argae tua diwedd y 19g
Eglwys Sant Wddyn, a adleolwyd pan foddwyd y dyffryn
Lake Vyrnwy Hotel, Llanwddyn

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanwddyn (pob oed) (257)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanwddyn) (96)
  
38.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanwddyn) (84)
  
32.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanwddyn) (18)
  
18.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%
Tarw dur, tractor a sled yn dosbarthu bara i bentre Llanwddyn yn ystod yr eira

Cyfeiriadau

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 7 Tachwedd 2021
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001).
  4. Gwefan RSPB
  5. Gwefan llanwddynevents.co.uk
  6. Gwefan Senedd Cymru
  7. Gwefan Senedd y DU
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.