Castell Caereinion
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth592 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,733.04 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6°N 3.2°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000262 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ163055 Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y pentref a chymuned yw hon. Am hanes y castell o'r un enw gweler Castell Caereinion (castell).

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Castell Caereinion[1] (Saesneg: Castle Caereinion). Saif y pentref i'r gorllewin o'r Trallwng ac ychydig i'r de o'r briffordd A458, ar y ffordd gefn B435.

Ymhlith ei hynafiaethau mae Tŷ Mawr, tŷ Cymreig traddodiadol sy'n dyddio o 1400, ac a adferwyd yn 1997-8. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Garmon; mae'r eglwys bresennol yn dyddio o 1874.

Yma hefyd mae gweddillion Castell yr Eglwys sef mwnt a beili a roddodd ei enw i'r pentref (am ei fod yn gorwedd yng nghantref Caereinion), a godwyd gan Madog ap Maredudd yn 1156.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 509.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Castell Caereinion (pob oed) (592)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Castell Caereinion) (86)
  
15.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Castell Caereinion) (238)
  
40.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Castell Caereinion) (59)
  
25.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]