Edward Snowden | |
---|---|
Ffugenw | TheTrueHOOHA, CITIZENFOUR, VERAX, John Dobbertin |
Ganwyd | Edward Joseph Snowden 21 Mehefin 1983 Elizabeth City |
Man preswyl | Wilmington, Gogledd Carolina, Ellicott City, Waipahu, Genefa |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Rwsia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gweinyddwr systemau, swyddog cudd-wybodaeth, security guard, Canu cloch, person gwrthwynebol, gwyddonydd cyfrifiadurol, intelligence analyst |
Cyflogwr |
|
Prif ddylanwad | Daniel Ellsberg |
Tad | Lonnie Glenn Snowden, Jr. |
Mam | Elizabeth Snowden |
Priod | Lindsay Mills |
Gwobr/au | Sam Adams Award, Fritz Bauer Prize, Ridenhour Truth-Telling Prize, Gwobr 'Right Livelihood', Stuttgart Peace Prize, Carl-von-Ossietzky-Medaille, Whistleblower Prize, Bjørnson Prize, Ossietzky Prize, The Glass of Reason, SUMA Award, Bert-Donnepp-Preis |
llofnod | |
Cyn-gontractwr technegol i'r National Security Agency (NSA), sef un o adrannau diogelwch Unol Daleithiau America, yw Edward Joseph Snowden (ganwyd 21 Mehefin 1983). Gweithiodd hefyd i'r Central Intelligence Agency (CIA). Yng ngwanwyn 2013 rhyddhaodd wybodaeth am rai o brif raglenni ysbïo drwy wyliadwriaeth dorfol yr Unol Daleithiau a Phrydain i'r wasg.[1][2]
Rhyddhaod yr wybodaeth yn wreiddiol i Glenn Greenwald o The Guardian yn Llundain, a hynny yng ngwanwyn 2013 tra roedd yn gweithio fel "infrastructure analyst" yng ngwmni Booz Allen Hamilton a oedd dan gontract i NSA. Yn ei dro, cyhoeddodd The Guardian sawl exposé rhwng Mehefin a Gorffennaf 2013 a oedd yn dinoethi rhaglenni megis PRISM, a oedd yn clustfeinio ac yn recordio gwybodaeth ddigidol ar systemau ffôn a Tempora sef cynllun gwylio a chofnodi gwybodaeth ar y we. Dywedodd Snowden fod rhyddhau'r wybodaeth fel hyn yn ymgais i "hysbysu'r cyhoedd o'r hyn sy'n digwydd yn eu henw nhw a'r hyn sy'n digwydd yn eu herbyn.[2][3][4] Dywedir fod y weithred hon o ryddhau gwybodaeth y mwyaf arwyddocaol o'i bath yn hanes yr NSA.[5]
Ar 4 Mehefin 2013, cafodd ei gyhuddo gan yr erlyniad ffederal o espionage a lladrata eiddo'r llywodraeth.[6] Ar 8 Gorffennaf 2013, cafodd ei anrhydeddu gan grwp o gyn-swyddogion y CIA gyda Gwobr Sam Adams.[7]
Ers cyhoeddi'r storiau, mae Snowden wedi bod ar ffo. Ar 20 a 21 Mehefin dywedodd cynrychiolydd WikiLeaks fod jet siartredig wedi'i baratoi i'w gludo i Wlad yr Iâ,[8] a chyhoeddodd sefydlydd WikiLeaks ei fod yn cynnal trafodaethau rhwng Snowden a Gwlad yr Iâ, gyda'r posibilrwydd o'i lochesu yno.[9]
Ym Mai 2013, caniataodd yr awdurdodau iddo adael ei waith gyda NSA yn er mwyn iddo gael triniaeth am ei epilepsi.[4] Ar 20 Mai hedfanodd i Hong Cong,[10][11] ble roedd pan ymddangosodd yr erthyglau cyntaf yn y Guardian.[10][12]
Eglurodd ei weithredoedd mewn cyfweliad gan ddweud: "I don't want to live in a society that does these sort of things [surveillance on its citizens]... I do not want to live in a world where everything I do and say is recorded."[13] Cyhoeddodd ei enw yn y Guardian ar 9 Mehefin gan ddweud: "I have no intention of hiding who I am because I know I have done nothing wrong."[4] Ychwanegodd iddo wneud hyn er mwyn gwarchod ei gydweithwyr a fyddai'n cael eu herlyn mewn witch hunt posibl am y whistleblower.[14]
Ar 1 Gorffennaf, datgelodd WikiLeaks fod Snowdon wedi gofyn am loches gwleidyddol i 20 o wledydd.[15] Dywedwyd fod llywodraeth yr UDA wedi ceisio rhoi pwysau ar y gwledydd hyn i beidio a gwneud hynny.[16]
Ar unwaith cyhoeddodd arlywydd Rwsia, Vladimir Putin wahoddiad i Snowden lochesu ond y byddai'n rhaid i Snowden beidio rhyddhau rhagor o wybodaeth a fydda'n "niweidio ein partneriaid Americanaidd" pe bai am loches.[17][18] Cyhoeddodd Snowden ei fod yn tynnu'r cais am loches yn ôl oherwydd yr amodau hyn.[15][19]
Cynigiwyd lloches iddo gan Nicaragwa,[20] Feneswela,[21] a Bolifia.[22]
Ymateb Ffindir, yr Almaen, India, Gwlad Pwyl, Norwy, yr Eidal ac Awstria oedd na allant gynnig lloches oni bai fod y cais yn cael ei wneud oddi fewn i ffiniau eu gwlad.[15][23][24].
Ar 23 Mehefin 2013, glaniodd yn un o feysydd awyrennau Mosgo, sef Sheremetevo.[25] Ar 25 Mehefin 2013, dywedodd Vladimir Putin fod "glaniad Snowden yn Mosgo yn newyddion annisgwyl iddo,"[26], nad oedd Snowden wedi troseddu ar dir Rwsia,[27], ei fod yn rhydd i adael unrhyw adeg ac y byddai hynny'n beth da.[28]