Yn Athen, mae Thrasybulus yn arwain y gwrthwynebiad democrataidd i'r llywodraeth oligarchaidd a adwaneir del y Deg Unben ar Hugain. Mae'n ennill Brwydr Munychia, a lleddir Critias, arweinydd yr oligarchiaid, yn y frwydr.
Daw byddin o Sparta i gynorthwyo'r oligarchiaid. Ym Mrwydr Piraeus, mae'r Spartaid yn gorchfygu'r democratiaid, ond yn dioddef colledion trwm. Mae Pausanias, brenin Sparta, yn gwneud cytundeb heddwch sy'n caniatau llywodraeth ddemocrataidd yn Athen. Tra mae Thrasybulus yn adfer democratiaeth, mae'r gweddill o'r Deg Unben ar Hugain yn ffoi i Eleusis.