Cyrus yr Ieuengaf, mab ieuengaf Darius II, brenin Persia, yn defnyddio cweryl a'r satrap Tissaphernes fel esgus i gasglu byddin o tua 20,000, yn cynnwys 10,000 o hurfilwyr Groegaidd. Wedi cyrraedd Afon Ewffrates, mae'n cyhoeddi ei fod yn herio'r brenin Artaxerxes II. Ym Mrwydr Cunaxa, i'r gogledd o ddinas Babilon, lleddir Cyrus.
Mae'r 10,000 o hurfilwyr Groegaidd yn ei fyddin yn ethol arweinwyr, yn cynnwys Xenophon, ac yn ymladd eu ffordd yn ôl i'r arfordir.
Agesilaus II yn dod yn frenin Sparta ar farwolaeth Agis II.