Math | dyffryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf, District of Rhondda |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 99.94 km² |
Cyfesurynnau | 51.6159°N 3.4175°W |
AS/au | Alex Davies-Jones (Llafur) |
Cwm yn ne Cymru yw'r Rhondda neu Cwm Rhondda. Mewn gwirionedd mae yno ddau gwm, sef y Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach. Mae bellach yn rhan o fwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf. Daeth yn enwog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg am gynhyrchu glo a'i allforio drwy'r byd.
Magwyd sawl llenor yn y Rhondda, gan gynnwys y bardd a nofelydd Rhydwen Williams, awdur Cwm Hiraeth.