26 Mai: Gŵyl mabsant Ffagan; dyddiau annibyniaeth Georgia (1918) a Gaiana (1966)
- 735 (1289 blynedd yn ôl) – bu farw'r hanesydd Seisnig Beda
- 1897 (127 blynedd yn ôl) – cyhoeddwyd nofel Bram Stoker, Dracula
- 1923 (101 blynedd yn ôl) – cynhaliwyd y ras geir 24 awr cyntaf yn Le Mans, gan ddechrau ar 26 Mai a gorffen y diwrnod wedyn
- 1986 (38 blynedd yn ôl) – mabwysiadwyd Baner Ewrop
- 1999 (25 blynedd yn ôl) – agoriad swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd Cymru bellach, yn yr adeilad a elwir heddiw'n Dŷ Hywel