Delwedd:Toronto Montage 2020.jpg, Toronto Skyline March 2023 14.jpg | |
Arwyddair | Diversity Our Strength |
---|---|
Math | dinas, provincial or territorial capital city in Canada, single-tier municipality, dinas fawr, y ddinas fwyaf, canolfan ariannol, anheddiad dynol, census division of Canada |
Enwyd ar ôl | Fort Rouillé |
Poblogaeth | 2,794,356 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Olivia Chow |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00 |
Gefeilldref/i | Chongqing, Chicago, Frankfurt am Main, Eilat, Damascus, Milan, Napoli, Serra San Bruno, Kyiv, Islamabad, Quito, Sagamihara, Volgograd, Warsaw, São Paulo, Vilnius, Istanbul, Dinas Mecsico, Indianapolis, Bishkek, Amsterdam, Dinas Ho Chi Minh |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Greater Toronto Area |
Sir | Ontario |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 630.21 km² |
Uwch y môr | 76 ±1 metr |
Gerllaw | Llyn Ontario, Afon Humber, Afon Don, Afon Rouge |
Yn ffinio gyda | Regional Municipality of York, Regional Municipality of Durham, Regional Municipality of Peel, Vaughan, Mississauga, Markham, Pickering, Brampton |
Cyfesurynnau | 43.6703°N 79.3867°W |
Cod post | M |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Toronto |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Toronto |
Pennaeth y Llywodraeth | Olivia Chow |
Sefydlwydwyd gan | John Graves Simcoe |
Dinas yng Nghanada yw Toronto, prifddinas talaith Ontario. Roedd gan y ddinas boblogaeth o 2,794,356 yn 2021.[1] Toronto yw’r ddinas fwyaf yng Nghanada a’r 4edd yng Ngogledd America. Mae’n ganolfan bwysig i fusnes, arian, celf a diwylliant ac un o’r mwyaf cosmopolitaidd y byd.[2][3]
Mae pobl cynhenid wedi byw in yr ardal ers dros 10,000 o flynyddoedd.[4]
Sefydlwyd York ym 1793 ar ôl pwrcas Toronto; daeth York yn brifddinas i Ganada Uwch.[5] Dioddefwyd y dref difrod mawr mewn brwydr yn y rhyfel yn erbyn Yr Unol Daleithiau ym 1812.[6] Newidiwyd enw York i Toronto ym 1834, a daeth Toronto yn brifddinas Ontario ym 1867.[7] Erbyn hyn, maint y ddinas yw 630.2 cilomedr sgwâr.
Iaith gyffredin y ddinas yw'r Saesneg, sy'n cael ei siarad gan y rhan fwyaf o'i bobl. Mae enw'r ddinas yn tarddu oddi wrth y gair Mohawk tkaronto, sy'n golygu 'man lle mae coed yn sefyll yn y dŵr'. Yn y gorffennol, roedd Toronto yn cael ei gweinyddu fel pum dinas annibynnol, a gafodd eu huno yn 1996.
Mae Eglwys Dewi Sant yn cynnal gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg, yn ogystal â chyrsiau ieithol.
Mae Comisiwn Cludiant Toronto (Saesneg: Toronto Transit Commission) yn cynnig gwasanaethau bws, tramffyrdd a rheilffyrdd tanddaearol. Mae 11 tramffordd a 4 lein danddaearol[8].
Mae gan Toronto 2 maes awyr, Maes awyr Pearson a Maes awyr Billy Bishop. Mae gwasanaethau rhyngwladol yn cyrraedd Maes awyr Pearson. Mae Maes awyr Billy Bishop ar Ynys Toronto; defnyddir gan wasanaethau lleol.
Mae gwasanaethau fferri yn mynd o Toronto i Ynys Ward, Ynys Canol a Pwynt Hanlan[9], ac mae un arall, siwrnai 121 medr o hyd, i Faes Awyr Billy Bishop[10]..