![]() | |
Math | Crusader states, gwlad ar un adeg ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Jeriwsalem ![]() |
Prifddinas | Jeriwsalem, Tyrus, Acre ![]() |
Poblogaeth | 565,000 ±85000 ![]() |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Lladin ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Syria, Libanus, Israel ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Haute Cour of Jerusalem ![]() |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys Gatholig Rufeinig ![]() |
Teyrnas Gristnogol a sefydlwyd wedi'r Groesgad Gyntaf yn 1099 oedd Teyrnas Jeriwsalem. Ar y dechrau, roedd yn gasgliad o ddinasoedd a thiriogaethau oedd wedi eu cipio oddi ar y Mwslimiaid yn ystod y Groesgad, ac mae'n ymddangos nad oedd ei rheolwr cyntaf, Godefroid o Fouillon, yn ei alw ei hun yn frenin. Tyfodd i fod yn rym sylweddol yn y Dwyrain Canol. Yn 1187 gorchfygwyd byddin Teyrnas Jeriwsalem gan Saladin ym Mrwydr Hattin ac yn ddiweddarach yr un flwyddyn cipiodd Saladin ddinas Jeriwsalem ei hun. Parhaodd y deyrnas hyd 1291 pan gipiwyd Acre gan y Mwslimiaid.
(Collwyd Jeriwsalem yn 1187; bu farw Sybilla yn 1190, ond parhaodd Guy yn frenin gweddillion y diriogaeth hyd 1192)