Enghraifft o'r canlynol | papur newydd |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Rhanbarth | Gwynedd |
Papur newydd Cymraeg Dydd Sul i Wynedd oedd y Sulyn.[1] Cyhoeddwyd 14 rhifyn o fis Medi 1982 hyd Ionawr 1983.[2] Dylan Iorwerth ac Eifion Glyn oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu'r papur. Elfen bwysig oedd ei fod yn cael ei ysgrifennu yn iaith bob dydd Gwynedd a Môn. Diffyg crebwyll busnes bu'n gyfrifol am ei fethiant yn ôl Eifion Glyn.[3]