Steffan Rhodri | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mawrth 1967 ![]() Abertawe ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu ![]() |
Adnabyddus am | Gavin & Stacey, Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1, Ni no Kuni: Wrath of the White Witch ![]() |
Actor o Gymro yw Steffan Rhodri (ganwyd 1 Mawrth 1967) sy'n adnabyddus am bortreadu Dave Coaches yn y gyfres deledu Gavin & Stacey, Reg Cattermole yn y ffilm Harry Potter and the Deathly Hallows rhan I, a DCI Rees yn y gyfres teledu Steeltown Murders.[1][2]
Magwyd yn Nhreforys, Abertawe ac aeth i Ysgol Gyfun Ystalyfera.[3] Erbyn hyn mae'n byw yng Nghaerdydd ond mae'n cefnogi clwb pêl-droed Dinas Abertawe.[4]
Mae wedi ymddangos fel seren westai mewn nifer o'r dramau sain ynghlwm a Doctor Who sy'n cael eu cynhyrchu gan Big Finish Productions. Mae y rhain yn cynnwys Dreamtime, The Bone of Contention a fel Prif Weinidog Prydain yn UNIT: The Longest Night a UNIT: The Wasting.