Richard Davies | |
---|---|
Cerflun o Richard Davies ar Gofeb Cyfieithwyr y Beibl yn Llanelwy. | |
Ganwyd | c. 1501 Gyffin |
Bu farw | 7 Tachwedd 1581, 7 Tachwedd 1581 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad, cyfieithydd |
Swydd | Esgob Llanelwy, esgob |
Esgob a chyfieithydd oedd Richard Davies (?1501 – 7 Tachwedd 1581). Fe'i ganed yn y Gyffin, ger tref Conwy lle roedd ei dad Dafydd ap Gronw, yn gurad yn eglwys St Bened. Yn ystod ei yrfa eglwysig bu'n Esgob Llanelwy a Thyddewi. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â William Salesbury yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys (John Davies).
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr Protestannaidd. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yng Ngenefa[1] ac yn ôl eraill i Frankfurt-am-Main [2] oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad Mari I, dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n Esgob Llanelwy ac yna ym 1561 yn Esgob Tyddewi.
Roedd yn aelod o Gyngor Cymru a'r Gororau ac yn gyfeillgar iawn â Matthew Parker, archesgob Caergaint, ac yn cael ei ystyried gan Parker a chan William Cecil, yr Arglwydd Burghley, yn gynghorydd dibynadwy ar y Gymraeg.[3] Gweithiai'n ddyfal gyda William Salesbury i berswadio senedd San Steffan i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno ym 1563 gwahoddod Salesbury i ymuno ag ef yn ei blas yn Abergwili i gyfieithu'r Testament Newydd. Richard Davies yw awdur yr Epistol at y Cembru ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd 1567; cafodd ddylanwad mawr ar hanesyddiaeth Cymru.
Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd. Bu farw yn Abergwili, lle'i claddwyd.