Cyfeiriadedd rhywiolrhan o rywoleg Gwahaniaethau Anrhywioldeb · Cyfunrywioldeb · Deurywioldeb · Heterorywioldeb · Hollrywioldeb · Paraffilia · Unrhywioldeb Labeli Cwestiynu · Hoyw · Lesbiad · Queer Dulliau Graddfa Kinsey · Grid Klein Astudiaeth Bioleg · Demograffeg · Meddygaeth · Seicoleg Anifeiliaid Cyfunrywioldebmewn anifeiliaid · Gweler hefyd Rhyngrywioldeb · Trawsrywedd · Trawsrywioldeb Y blwch hwn: gweld • sgwrs • golygu

Yn draddodiadol mae'r gair Saesneg queer wedi golygu "rhyfedd" neu "anarferol", ond fe'i defnyddir yn aml erbyn heddiw mewn nifer o ieithoedd i gyfeirio at gymunedau hoyw, lesbiaidd, deurywiol, trawsryweddol, rhyngrywiol, ac anrhywiol. Arddelir y sillariad cwiar yn gynyddol yn y Gymraeg.[1] Cyhoeddwyd llyfr Cysur Cwiar: Canllaw Calonogol i Gariad, Bywyd ac Iechyd Meddwl LHDTC+, sy'n gyfieithiad o lyfr gan Alexis Caught, yn 2023 lle gwelir arddel y term a'r sillafiad "cwiar".[2]

Baner yr enfys, symbol o'r gymuned LHDT.

Mae defnydd y gair yn ddadleuol ar ôl newidiadau sylweddol yn ystod y can mlynedd diwethaf. Tua diwedd y 19g datblygodd, o olygu "rhyfedd" yn ei ystyr ehangach, i olygu rhywun a oedd yn gwyro oddi ar dybiaethau'r cyfnod am "normalrwydd" rhywiol, ac fe'i cyfeiriwyd yn benodol at ddynion hoyw neu ferchetaidd. Mewn ymgais i ddinerthu grym negyddol y gair fel ymosodiad arnynt, aeth ymgyrchwyr hoyw yn chwarter olaf yr 20g ati i adfeddiannu'r gair a'i ddefnyddio mewn modd cadarnhaol, gan uniaethu â'r label queer, a'i ddefnyddio fel term mantell i ddisgrifio unrhyw gyfeiriadedd a hunaniaeth rywiol a/neu hunaniaeth ryweddol nad yw'n cydymffurfio â chymdeithas heteronormadol. Fodd bynnag, mae rhai yn credu ei fod yn parhau i fod yn derm rhy sarhaus i'w ddefnyddio mewn cyd-destun cadarnhaol.

Mewn ymgais i ganfod gair cyfatebol i'w ddefnyddio yn y Gymraeg, aeth rhai ymgyrchwyr hoyw yng Nghymru ati i ddefnyddio'r label hyfryd i uniaethu ag ef. Gan mai bathiad bwriadol ydyw yn yr ystyr honno, nid yw hyfryd yn Gymraeg yn cyfleu'r tyndra hanesyddol sydd ynghlwm â queer yn Saesneg; yn hytrach, ei ddiben yw cyfleu ochr gadarnhaol y gair Saesneg mewn cymunedau LHDT Cymraeg.

Hunaniaeth Cwiar Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Glossary of Welsh gender and sex terminology". Nonbinari Wiki. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.
  2. Caught, Alexis (2023). "Cysur Cwiar: Canllaw Calonogol i Gariad, Bywyd ac Iechyd Meddwl Lhdtc+". ISBN 9781801063951. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.
  3. "Ciwar Na Nog". Urdd Gobaith Cymru. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.
  4. "Paned o Gê Cartref Cymru am Lenyddiaeth LHDTC+". Cyrchwyd 14 Mehefin 2024. Unknown parameter |publsiher= ignored (|publisher= suggested) (help)