![]() | |
Math | pont grog, pont ddeulawr, pont ffordd, pont reilffordd ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Manhattan, Brooklyn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 40.7072°N 73.9908°W ![]() |
Hyd | 2,090 metr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, New York State Register of Historic Places listed place, New York City Landmark ![]() |
Manylion | |
Deunydd | dur ![]() |
Mae Pont Manhattan yn bont grog ar draws yr Afon Dwyrain yn Ninas Efrog Newydd, rhwng Manhattan a Brooklyn. Hyd y bont yw 6855 troedfedd. Mae’n un o bedair pont rhwng Manhattan a Long Island. Cynlluniwyd y bont gan Leon Moisseiff ac adeiladwyd gan Gwmni Pont Phoenix o Phoenixville, Pensylvania. Agorwyd y bont ar 31 Rhagfyr 1909.
Crewyd y cynllun cynharaf gan R. S. Buck.[1] Buasai’r bont yn bont grog, yn cynnwys cablenni dur carbon a phâr o dyrrau gyda wyth coes. Buasai’r bont 1470 troedfedd o hyd, gyda darnau eraill, 725 troedfedd yr un, yn arwain at y darn canolog.[2] Cyhoeddwyd cynllun ym 1903, yn sôn am dramffordd a threnau reilffyrdd uchel dros y bont[3] Bu farw 3 gweithiwr mewn caisson, yn trio paratoi sail ar gyfer y tŵr agosach at Brooklyn. ym 1903[4]. Rhoddwyd grant o $10,000,000 ym Mai 1904, ar sail y byddai gwaith ar y bont yn dechrau yn ystod 1904.[5] Cwynodd y Comisiwn Celf Dinesig am gynllun y bont ym Mehefin 1904, yn arafu’r proseso adeiladu.[6] Datgelwyd cynllun newydd gan Gomisiwnydd Pontydd Dinas Efor Newydd (Gustav Lindenthal) yn cydeithio gyda Henry Hornbostel.[7] Buasai’r tyrrau i gyd yn cynnwys 4 colofn, cryfhawyd ar letraws a chysylltwyd i’w sail gan golynnau hydredol.[8]. Ardurnasai’r tyrrau gyda manylion Ffrengig Modern, a buasai neuaddau ar gyfer cyfarfodydd tu mewn sail y bont. Gwrthodwyd cynllun Lindenthal hefyd[9] oherwydd dadl dros ddefnyddio ‘eyebars’ yn hytrach na chablenni.[10] Penderfynwyd defnyddio cablenni ym Medi.[11] Diswyddwyd Lindenthal a chomisiynwyd Leon Moisseiff i greu cynllun newydd. Cymerodd George Best le Lindenthal fel comisiwnydd pontydd. Cymerodd Carrère a Hastings le Hornbostel fel cynghorwyr penseiriol.
Dechreuwyd gwaith gosod y cablenni rhwng y tyrrau ym Mehefin 1908. Roedd cost y bont wedi codi at $22 miliwn.[12] Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd y cablenni i gyd yn eu lle.[13] Rhoddwyd cytundeb y gwaith dur at Gwaith Dur Phoenix, Phoenixville, Pennsylvania.[14][15]
gosodwyd y trawst cyntaf yn Chwefror 1909[16] Erbyn Ebrill, roedd y mwyafrif ohonynt yn eu lle.[17]
Awgrymodd Comisiwn Trafnidiaeth Gyflym Dinas Efrog Newydd adeiladu llinell o’u rheilffyrdd tanddaearol dros y bont ym 1905.[18], a chadarnhawyd eu cynllun ym 1907.[19]. Gofynnodd Comisiwn Gwasanaeth Gyhoeddus Dinas Efrog Newydd am ganiatád i ddechrau gwaith adeiladu ym Mawrth 1908.[20] a chafwyd caniatád ym Mai.[21]
Roedd gorymdaith gan 100 o bobl dros y bont ar 5 Rhagfyr 1909.[22] Agorwyd y bont ar 31 Rhagfyr 1909 gan maer Efrog Newydd, George B. McClellan Jr.[23] Achoswyd difrod i’r bont gan dân ym Mawrth 1910.[24]
Crewyd cynllun rhwng 1910 a 1912 gan Carrère a Hastings i adeiladu mynediad i’r bont ar ochr Manhattan, yn rhan o gynllun “City Beautiful” a hefyd un llai ar ochr Brooklyn.[25] Cwblhawyd y gwaith ar ochr Manhattan ym 1915 ac ar ochr Brooklyn yn Nhachwedd 1916.
Ychwanegwyd ffordd ar lefel uwch y bont ym 1922. [27]
Gosodwyd llifoleuadau a ffensys ym 1951 yn ystod y Rhyfel Oer.[28]Symudwyd y peilonau ar ben Brooklyn y bont i Amgueddfa Brooklyn ym 1963 er mwyn llydaenu’r ffordd.
Gogwyddodd y bont oherwydd y nifer o trenau’n defnyddio un ochr y bont, ers adeiladu’r rheilffordd ym 1917.[29] Trwsiwyd y bont ym 1956.
Erbyn 1978 roedd angen trwsio Pont Manhattan a phontydd eraill a rhoddwyd arian gan Gynulliad yr Unol Daleithiau.[30] Dechreuodd gwaith ym 1982 a rhoddwyd grant o $50 miliwm ym 1985[31] a dechreuwyd gwaith yn yr un blwyddyn[32]. Rhoddwyd bae â nifer anhafal o drenau’n croesi’r bont, yn ogystal â diffyg gwaith cynnal a chadw yn ystod creisis cyllidol y 1970au.
Roedd gwaith trwsio ar y bont rhwng 1986 a 2001.[33]
Ail-agorwyd llybr ar ochr ddeheuol y bont ar gyfer Cerddwyr a Seiclwyr ym Mehefin 2001.[34]Agorwyd llwybr ar ochr ogleddol yn 2004.[35] Erbyn diwedd yr holl waith trwsio, y cost oedd $800 miliwn. Trwsiodd y ffordd ar y lefel is rhwng 2004 a 2008.[36]
Trefnwyd digwyddiadau i ddathlu canmlyddiant y bont yn Hydref 2009, gan gynnwys gorymdaith a thân gwyllt.[37] Daeth y bont yn gyfarwyddnod peirianyddol cenedlaethol hanesyddol yn 2009 gan Gymdeithas Peirianyddion Sifil America.
Cyhoeddwyd prosiect i newid prif gablen y bont yn 2010 dros cynod o 2 flynedd.[38]Rhoddwyd gytundeb i Skanska i drwsio rhannau’r bont yn 2018, y costio $75.9 miliwn, y gwaith i orffen yn 2021 ac yn cynnwys ffens newydd, trostiau dur newydd a gwaith addurno ar y tyrrau.[39][40][41]
Cwblhawyd gwaith ar ben Manhattan y bont ym 1915. Mae plasa hirgrwn yn wynebu’r Bowery. Roedd yr arch yn seiliedig ar ‘Porte Saint-Denis ym Mharis, a’r colonâd a plasa ar Sgwâr Sant Pedr yn ninas y Fatican. Roedd creu ardaloedd agored o gwmpas cyffyrdd mawrion yn un o nodweddion y Cynllun Gwella Efrog Newydd, 1907. Roedd cynllun i greu plasa crwn rhwng y pontydd Brooklyn a Manhattan, ond nad aleiladwyd y fath plasa.
Mae gan lefel uwch y bont ffordd ddeuol. Ar y lefel is, mae 3 lôn ddwyffordd, 4 trac, rheilffordd danddaearol. Llwybr i cerddwyr ac un arall i feicwyr. Ar un adeg aeth Ffordd Talaeth Efrog Newydd 27 dros y bont, a bwriadwyd bod Ffordd I-478 yn croesi hefyd.[42] Mae’r bont yn 1480 troedfedd o hyd rhwng y tyrrau a 160 troedfedd o led.[43] Yn cynnwys y rampiau’n arwain at y bont, mae’n 6375 troedfedd o hyd ac mae 134 troedfedd rhwng afon a phont ar benllanw.[44] Mae 4 cablen yn dod o’r tyrrau ac yn dal meini’r bont mewn ardaloedd 225 troedfedd o hyd a 175 troedfedd o led, yn lletach na’r bont yn gyffredinol, yn creu gofod lle gall cerddwyr yn aros am sbel.[45] Cynllunwyd Carrère a Hastings sgwâriau ar ddwy ben y bont.[46]
Mae 4 ohonynt ar lefel is y bont, gyda’r ffordd rhwngddynt. Mae gwasanaethau N a Q y rheilffordd danddaearol yn defnyddio’r traciau deheuol. Mae gwasanaethau B a D yn defnyddio’r traciau gogleddol.
Pan agorwyd y bont, nad oedd cysylltiad i weddill y rhwydwaith; daeth trenau’r Manhattan Bridge Three Cent Line ar draws y bont o 1910 ymlaen[47] Wedyn, ym 1912, daeth y Brooklyn and North River Line.[48]
Gosodwyd cysylltiad gyda Brooklyn Rapid Transit ym 1915.[49] Symudwyd y gwasanaeth dros y bont yn unig i’r lefel uwch hyd at 1929, pan gorffenodd y wasanaeth.[50] Agorwyd traciau tanddaearol dros y bont ar 22 Mehefin 1915 pan agorwyd y llinell 4th Avenue a llinell Sea Beach i Ynys Coney a Gorsaf reilffordd Stilwell Avenue.[51]
Mae’r cledrau ar y 2 ochr o’r bont, felly gwnaeth trenau’n acosi symudiad i’r bont, yn mwyhau efo trenau hirach a thrymach, a buasai un ochr y bont tua 3 troedfedd yn is na’r llall pan aeth trên drosodd, yn difrodi’r bont. Dechreuodd trwsiad ym 1956, yn costio $30 miliwn o ddoleri.[52] Ail-drefnwyd gwasanaethau yn ystod y cyfnod trwsio.[53]
Dechreuodd ymgyrch trwsio arall yn y 1980au, ac aeth llai o drenau dros y bont fel canlyniad[54] Caewyd y traciau gogleddol yn gyntaf, yn Ebrill 1986. Pan ail-agorodd y traciau gogleddol, caewyd y rhai deheuol, yn Rhagfyr 1988. Roedd pwys o Awdurdod Transit y Ddinas, ac o wleidyddion i ail-ddechrau gwasanaethau ar ochr deheuol y bont, er dywedodd y peiriannwyr bod y bont ddim yn ddiogel.[55][56] Ar ôl 27 Rhagfyr, anfonwyd gwasanaethau ar ochr ddeheuol y bont trwy dwnnel oherwydd difrod ar y bont, ac roedd ymholiad ynglŷn â’r penderfyniad i anfon trenau dros y bont, ac am ddiogelwchpontydd Efrog Newydd i gyd.[57][58][59] Awgrymwyd dyddiad ail-agor ym 1995.[60] Caewyd yr ochr ogleddol tu hwnt i’r oriau prysuraf dros cyfnod o 6 mis. Ail-agorwyd yr ochr ddeheuol ar 22 Gorffennaf 2001 a chaewyd yr ochr ogleddol yn syth. Caewyd yr ochr ddeheuol rhwng Ebrill a Thachwedd 2003.[61] Ail-agorwyd yr ochr ogleddol ar 22 Chwefror 2004, a defnyddiwyd y traciau i gyd am y tro cyntaf ers 18 mlynedd.[62][63][64]