Donald Trump yn annerch rali yn ystod ei ymgyrch am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.Mae peroniaeth Arlywydd yr Ariannin, Juan Perón, wedi cael ei ystyried yn fudiad poblogaidd.
Mudiad neu agwedd wleidyddol sy'n cefnogi'r bobl gyffredin, gan amlaf o'i chyferbynnu â'r elît neu'r "sefydliad", yw poblyddiaeth. Gall fod yn ideoleg adain-chwith, adain-dde, neu'n cyfuno elfennau o'r ddau feddylfryd. Fel arfer mae poblyddwyr yn gwrthwynebu diddordebau'r ariannwyr a'r busnesau mawr a hefyd yn anghytuno â phleidiau sefydledig gan gynnwys y sosialwyr a'r mudiad llafur.[1]
Gyda'i rethreg o "y 99%" (y bobl) yn erbyn "yr 1%" (yr elitaidd), roedd y mudiad Occupy rhyngwladol yn enghraifft o fudiad cymdeithasol poblogaidd.
Fel y diffinnir yn Siart Nolan, mae poblyddiaeth (a totalitariaeth) yn y chwith isaf.
Cartwn o 1896 lle mae William Jennings Bryan, cefnogwr pybyr i boblyddiaeth, wedi bod yn llyncu symbol Plaid Ddemocrataidd America.