Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | Annibyniaeth yr Alban, cenedlaetholdeb Albanaidd, democratiaeth gymdeithasol |
Dechrau/Sefydlu | 26 Mawrth 2020 |
Pencadlys | Caeredin |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.albaparty.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Plaid Alba yn blaid genedlaetholgar Albanaidd sydd wedi'i lleoli yng Nghaeredin. [1] Sefydlwyd Plaid Alba gan Laurie Flynn [2] ac fe’i lansiwyd yn gyhoeddus gan gyn Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond ar 26 Mawrth 2021. [3] [4] Cyhoeddodd y blaid gynlluniau i sefyll ymgeiswyr rhestr yn unig yn etholiad Senedd yr Alban 2021 .
Cofrestrwyd y blaid gyda'r Comisiwn Etholiadol ar 8 Chwefror 2021.
Ar 26 Mawrth 2021, cyhoeddodd cyn Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn lansiad etholiad y blaid ei fod wedi ymuno â’r blaid ac y byddai’n dod yn arweinydd newydd. [2]
Ar 27 Mawrth 2021 cyhoeddodd Kenny MacAskill, Aelod Seneddol etholaeth Dwyrain Lothian a chyn ysgrifennydd cyfiawnder Senedd yr Alban ei fod wedi ymadael a'r SNP ac wedi ymuno â Phlaid Alba.[5]. Ar yr un diwrnod ymunodd Neale Hanvey AS SNP etholaeth Kirkcaldy a Cowdenbeath â'r blaid.
# | Enw | Cychwyn | Dod i ben | darlun |
---|---|---|---|---|
1 | Laurie Flynn | 8 Chwefror 2021 | 25 Mawrth 2021 | |
2 | Alex Salmond | 25 Mawrth 2021 | deilydd |
Cyhoeddodd y blaid gynlluniau i sefyll o leiaf bedwar ymgeisydd ar gyfer y bleidlais rhestr ym mhob rhanbarth yn etholiad Senedd yr Alban 2021. [4] Ymhlith yr ymgeiswyr sy'n debygol o sefyll mae Salmond yn ogystal â chyn-aelodau’r SNP Chris McEleny, Eva Comrie a Cynthia Guthrie. [2] Mae’r blaid yn cymeradwyo pleidleisio i’r SNP ar gyfer y bleidlais etholaethol a phleidleisio dros Blaid Alba ar gyfer y rhestr, er mwyn sicrhau bod mwy o Aelodau Seneddol o blaid annibyniaeth yn cael eu hethol. [6]