Piast Gliwice
Enw llawnGliwicki Klub Sportowy Piast Gliwice
LlysenwauPiastunki (y Nyrsus)
Szlachta (Uchelwyr)
Sefydlwyd18 Mehefin 1945; 79 o flynyddoedd yn ôl (1945-06-18)
MaesStadion Piast
(sy'n dal: 10,037)
CadeiryddMarek Kwiatek
RheolwrWaldemar Fornalik
CynghrairEkstraklasa
2022/235. (Ekstraklasa)
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis
Tymor cyfredol
Tu fewn Stadiwm Gliwice

Mae Gliwicki Klub Sportowy Piast Gliwice ([ˈpʲast ɡlʲiˈvʲit͡sɛ], "Clwb Chwaraeon Piast Gliwice") neu Piast yn gyffredin ar lafar, yn glwb pêl-droed Pwyleg sydd chwarae yn ninas Gliwice yn nhalaith Silesia yn ne orllewin Gwlad Pwyl, dinas o rhyw 180,000 o drigolion oddeutu 25 km i'r gorllewin o Katowice mewn ardal ddiwydiannol. Enillont bencampwriaeth yr Ekstraklasa (Uwch Gynghrair Gwlad Pwyl) yn 2018-19 am y tro cyntaf yn eu hanes. Lliwiau'r clwb yw coch a glas ac mae'r arfbais yn arddangos eryr a thŵr.[1]

Hanes

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y clwb ar 18 Mehefin 1945 gan Bwyliaid a oedd wedi cael eu gorfodi i adael eu tir yn yr hyn sydd heddiw yng ngorllewin Wcráin ond a oedd, cyn yr Ail Ryfel Byd yn rhan o Wlad Pwyl. Y clwb yw'r un gyntaf erioed i esgyn o'r 7fed adran yn system byramid pêl-droed Gwlad Pwyl i'r Uwch Gynghrair ac yna ennill yr hawll i gystadlu yn Ewrop.[2]

Bu'r clwb yn chwarae am 32 tymor yn yr ail adran Bwylaidd, cyn esgyn i'r Ekstraklasa am y tro cyntaf yn 2008. Llwyddodd y clwb i gyrraedd Cwpan Gwlad Pwyl ddwywaith (yn 1978 a 1983) gan golli ar y ddau achlysur.

Daw enw clwb o'r llinach Piast, teulu brenhinol oedd yn rheoli Gwlad Pwyl o flynyddoedd cyntaf annibyniaeth rhwng 970 ac 1360.

Newid Enw

[golygu | golygu cod]
Stadiwm Piast Gliwice

Mae'r clwb wedi newid ei henw sawl gwaith ers ei sefydlu yn y mis gyntaf wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd:

Anrhydedddau

[golygu | golygu cod]

Cystadlaethau Cenedlaethol

[golygu | golygu cod]

Ymddangosiadau yng nghystadlaethau UEFA

[golygu | golygu cod]
Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Adref Oddi Cartref Agregad
2013-14 Cynghrair Europa UEFA Clasificatoria 2 Baner Aserbaijan FK Qarabağ 2–2 1–2 3–4 (t.e.)
2016–17 Cynghrair Europa UEFA Clasificatoria 2 Sweden IFK Göteborg 0–3 0–0 0–3

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://piast.gliwice.pl/historia/w-pigulce/
  2. http://www.sport.pl/sport/1,67926,5247205.html%7Ctítulo=Kapitan Piasta awansował z nim od B-klasy do ekstraklasy

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]