![]() Clawr y llyfr | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig ![]() |
---|---|
Awdur | Jimmy Carter |
Cyhoeddwr | 2006 (Simon & Schuster) |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 2006 ![]() |
Pwnc | Gwyddoniaeth Gwleidyddiaeth |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 978-0-7432-8502-5 |
Genre | Nid ffuglen |
Olynwyd gan | We Can Have Peace in the Holy Land ![]() |
Prif bwnc | gwyddor gwleidyddiaeth ![]() |
Llyfr gan Jimmy Carter, 39fed Arlywydd yr Unol Daleithiau (1977–1981) ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel ydy Palestine: Peace Not Apartheid.[1] Fe'i cyhoeddwyd gan Simon and Schuster yn Nhachwedd 2006.[2]
Tra'n Arlywydd, cyhaliodd drafodaethau Camp David rhwng Menachem Begin o Israel ac Anwar Sadat o'r Aifft a arweiniodd at gytundeb heddwch Aifft-Israel. Barn Carter yn ei lyfr Palestine: Peace Not Apartheid yw mai gafael Israel ar diroedd y Palesteiniaid ydy asgwrn holl gynnen problemau'r Dwyrain Canol a'r hyn sy'n atal heddwch yno.[3] Beirniadwyd y llyfr yn bennaf gan Iddewon ac Israeliaid ond nododd Carter fod y feirniadaeth "in the real world… has been overwhelmingly positive." [4]
The ultimate purpose of my book is to present facts about the Middle East that are largely unknown in America, to precipitate discussion and to help restart peace talks (now absent for six years) that can lead to permanent peace for Israel and its neighbors. Another hope is that Jews and other Americans who share this same goal might be motivated to express their views, even publicly, and perhaps in concert. I would be glad to help with that effort.[4]
Nododd y ddwy broblem pennaf:
[1] Mae rhai Israeliaid yn credu fod ganddyn nhw'r hawl i gymeryd tiroedd y Palesteiniaid oddi wrthynt. Mae rhai hefyd yn ceisio cyfiawnhau'r driniaeth eilradd a roddir i'r Palesteiniaid: "(They) try to justify the sustained subjugation and persecution of increasingly hopeless and aggravated Palestinians;" ac
[2] Mae rhai Palesteiniaid yn adweithio'n negyddol i'r driniaeth hon, drwy fomio neu ddanfon rocedi, a chredant y cânt eu gwobrwyo am hyn yn y nefoedd.[3]
Er mwyn dod a'r ddau yma i ben, mae Carter yn galw ym Mhennod 17 am adnewyddu'r gweithdrefnau heddwch, yn enwedig y canlynol:
a. The security of Israel must be guaranteed ...
b. The internal debate within Israel must be resolved in order to define Israel's permanent legal boundary ...
c. The sovereignty of all Middle East nations and sanctity of international borders must be honored ...[3]
Cyfiawnhaodd y defnydd o'r gair "Apartheid" yn ei lyfr drwy ddweud:
"It's not Israel. The book has nothing to do with what's going on inside Israel which is a wonderful democracy, you know, where everyone has guaranteed equal rights and where, under the law, Arabs and Jews who are Israelis have the same privileges about Israel. That's been most of the controversy because people assume it's about Israel. It's not.[5]
"I've never alleged that the framework of apartheid existed within Israel at all, and that what does exist in the West Bank is based on trying to take Palestinian land and not on racism. So it was a very clear distinction."[6]
- Marwolaethau niferus sifiliaid dieuog o'r ddwy ochr, ac y dylai'r trais stopio.
- Am 39 blwyddyn mae Israel wedi meddiannu tir y Palesteiniaid.
- Ataliwyd llawer o Balesteiniaid rhag fynd yn ôl i'w tiroedd a'u tai, mae'r rheiny sy'n protestio'n cael eu gormesu. Mae arwahanu (segregation) gorfodol yn digwydd a gorfodir yr Arabiaid i ddefnyddio dull gymhleth o gael mynediad i lefydd drwy system o 'pass'.
- Mae Israel wedi amgylchynu'r Lan Orllewinol a Llain Gaza gyda waliau anferthol yn ogystal â ffiniau naturiol megis yr Iorddonen ac yn rheoli'r mynd-a-dod yn llym. Ni chaniateir i'r Palesteiniaid fynediad rhydd i fynd allan o'r mannau hyn i'r byd mawr.
- Nid yw'r Palesteiniaid yn cael hanfodion symlaf bwyd (The Palestinian people are now being deprived of the necessities of life). Un pryd bychan o fwyd mae'r rhan fwyaf o deuluoedd yn ei gael.
- Mae Mahmoud Abbas wedi ceisio negydu am chwe mlynedd gydag Israel i wella'r sefyllfa heb unrhyw gonsesiynau'n cael eu rhoi.
- Mae'r Camp David Accords a chynigion y Cenhedloedd Unedig a'r International Roadmap for Peace yn galw ar Israel i dynnu'n ôl o'r tiroedd dan feddiant. Ar y llaw arall mae'n hanfodol fod y Palesteiniaid yn derbyn hawl Israel i fyw mewn heddwch o fewn ei ffiniau. Y ddau bwynt yma yw hanfodion unrhyw heddwch, yn ôl Carter.[7]