Meinir Gwilym
Ganwyd31 Mawrth 1983 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr caneuon, cerddor, gitarydd Edit this on Wikidata
Arddullcanu gwerin Edit this on Wikidata

Cantores a chyflwynwraig radio Gymreig ydy Meinir Elin Gwilym (ganed 31 Mawrth 1983). Cafodd Meinir ei magu yn Llangristiolus, Ynys Môn. Mae hi'n or-wyres i Ifan Gruffydd, y Gŵr o Baradwys.

Rhyddhaodd ei halbwm cyntaf, Smôcs, Coffi a Fodca Rhad yn 2002. Erbyn hyn mae wedi rhyddhau pedair albwm, i gyd ar label Gwynfryn Cymunedol.

Hyd at 2012 roedd hi'n ohebydd y gogledd ar y rhaglen gylchgrawn ddyddiol Wedi 7 ar S4C.[1] Mae ei chyfnither Lowri Mair Jones hefyd yn gantores boblogaidd.

Erbyn hyn mae'n cyflwyno rhaglen 'Garddio a Mwy' ar S4C yn trafod garddio a byd natur.

Disgograffeg

Cyfeiriadau

  1. Cytundeb gohebwyr yn dod i ben , Golwg360, 31 Ionawr 2012. Cyrchwyd ar 18 Mawrth 2016.

Dolenni allanol


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.