Llanllwni
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth638, 653 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,672.84 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0331°N 4.2042°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000536 Edit this on Wikidata
Cod OSSN489395 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanllwni. Saif y pentref ar hyd y briffordd A485, yn ymestyn am tua 4 km, fymryn i'r de-orllewin o Lanybydder. I'r de o'r pentref mae Mynydd Llanllwni. Cysegrwyd yr eglwys, yn dyddio o'r 16g, i Sant Luc, ond gynt i Sant Llwni.

Heblaw pentref Llanllwni, mae'r gymuned yn ymestyn hyd at lan ddeheuol Afon Teifi ac yn cynnwys copa Mynydd Llanybydder (408 m). Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 676 gyda 72.19% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cynrychiolir cymuned Llanllwni yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanllwni (pob oed) (638)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanllwni) (367)
  
58.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanllwni) (416)
  
65.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llanllwni) (119)
  
41.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]