Math | cymuned, maestref |
---|---|
Poblogaeth | 10,326 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.529°N 3.189°W |
Cod SYG | W04000999 |
AS/au | Anna McMorrin (Llafur) |
Cymuned ar gyrion Caerdydd yw Llanisien (ffurf Seisnigaidd, Llanishen). Ei nawddsant yw Isan.
Bu'n gartref i Ffatri Arfau'r Goron Caerdydd a sefydlwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn 1987 daeth y ffatri yn Sefydliad Arfau Atomig yn swyddogol, ond roedd grwpiau heddwch fel CND Cymru eisoes yn ymwybodol fod gwaith ymchwil o'r fath yn digwydd yno a gwelwyd sawl protest mawr yno yn y 1980au. Caewyd y sefydliad yn Chwefror 1997 ac mae stadau tai wedi'u codi yno ers hynny.
Mae Parc Tŷ Glas yn gartref i swyddfeydd S4C ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Ceir un o ganolfannau mawr yr Adran Trethi yno hefyd, sy'n rhan o ystad o swyddfeydd y llywodraeth ganolog.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanisien (pob oed) (17,417) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanisien) (1,779) | 10.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanisien) (13302) | 76.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanisien) (2,302) | 30.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |