![]() | |
![]() | |
Math | metropolis, endid tiriogaethol gweinyddol, tref/dinas, dinas fawr, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, prifddinas y dalaith ![]() |
---|---|
Prifddinas | Gulshan Town ![]() |
Poblogaeth | 14,910,352 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Murtaza Wahab ![]() |
Cylchfa amser | UTC+05:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wrdw ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sindh ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,527 km² ![]() |
Uwch y môr | 8 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 24.86°N 67.01°E ![]() |
Cod post | 74000–75900 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Karachi Metropolitan Corporation ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Karachi ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Murtaza Wahab ![]() |
![]() | |
Karachi ( ynganiad ) yw'r ddinas fwyaf ym Mhacistan ac un o'r deg o ddinasoedd mwyaf poblog, gyda dros 14,910,352 (2017)[1] o bobl yn byw ynddi.[2][3] Mae wedi'i lleoli ar Fôr Arabia fymryn i'r gogledd o'r man lle mae Afon Indus yn rhedeg i'r môr ar ddiwedd ei thaith hir o fynyddoedd y Karakoram. Karachi yw prif borthladd Pacistan. Karachi yw dinas fwyaf cosmopolitaidd Pacistan, yn amrywiol o ran iaith, yn ethnig ac yn grefyddol,[4] yn ogystal â bod yn un o ddinasoedd mwyaf seciwlar a rhyddfrydol Pacistan.[5][6][7] Y ddinas yw prif ganolfan ddiwydiannol ac ariannol Pacistan, gydag amcangyfrif o CMC o $ 164 biliwn (PPP) yn 2019.[8]
Yn ddinas fodern, datblygodd yn gyflym fel porthladd yn ystod y 19g. Yn 1947 daeth yn brifddinas y Bacistan newydd a llifodd nifer fawr o ffoaduriaid i mewn i ddinas oedd eisoes yn llawn i'r ymylon. Gwellhaodd y sefyllfa i raddau pan symudwyd y brifddinas i Islamabad yn 1959 a chychwynwyd ar raglen o adeiladu bwrdeistrefi o gwmpas y ddinas yn y 1960au.
Galwyd hi'n "Ddinas y Goleuadau" yn y 1960au a'r 1970au oherwydd ei bywyd nos bywiog.[9] Yn yr 1980au, fodd bynnag, roedd Karachi;n llawn o wrthdaro ethnig, sectyddol a gwleidyddol, gyda dyfodiad arfau o bob lliw a maint, yn ystod y Rhyfel Sofietaidd-Afghanistan.[10] Erbyn y 2020au roedd Karachi wedi dod yn gartref i fwy na dwy filiwn o fewnfudwyr Bangladeshaidd, miliwn o ffoaduriaid o Affganistan, a hyd at 400,000 o Rohingyas o Myanmar.[11][12]
Karachi yw prif borthladd filwrol y wlad. Mae'r rhan fwyaf o gynnyrch taleithiau amaethyddol Sind a Punjab yn pasio drwy'r borth. Ymhlith y prif ddiwylliannau ceir: brethyn, cemegau, a serameg.
Un o'r ychydig atyniadau pensaernïol amlwg yn y ddinas yw Mazar-e-Quaid, beddrod Jinnah, sefydlwr Pacistan.
Yn ôl pob sôn, sefydlwyd Karachi modern ym 1729 fel anheddiad Kolachi-jo-Goth.[13] Dywedir i'r anheddiad newydd gael ei enwi er anrhydedd i Mai Kolachi, y dywedir bod ei mab wedi lladd crocodeil a oedd wedi bwyta'i frawd hynaf gael eu lladd ganddo eisoes. Defnyddiwyd yr enw Karachee, fersiwn fyrrach a llygredig yr enw gwreiddiol Kolachi-jo-Goth, am y tro cyntaf mewn adroddiad o'r Iseldiroedd a sgwennwyd yn 1742 am longddrylliad ger yr fan.[13][14]
Mae'r rhanbarth o amgylch Karachi wedi bod yn safle i bobl fyw ynddo ers milenia. Cloddiwyd safleoedd Hen Oes y Cerrig (Paleolithig) a Oes Ganol y Cerrig (Mesolithig Uchaf) ym Mryniau Mulri ar hyd cyrion gogleddol Karachi. Credir mai helwyr-gasglwyr oedd y trigolion cynharaf hyn, gydag offer fflint hynafol wedi'u darganfod mewn sawl safle.
Credir bod rhanbarth eang Karachi yn hysbys i'r hen Roegiaid, ac efallai mai dyma'r safle a elwyd yn "Barbarikon", porthladd hynafol a oedd wedi'i leoli yng ngheg gyfagos Afon Indus. Cyfeirir at Karachi hefyd fel "Ramya" mewn testunau Groegaidd hynafol.[15][16][17]
Efallai bod safle hynafol Krokola, harbwr naturiol i'r gorllewin o'r Indus lle hwyliodd Alecsander Fawr ei longau ar gyfer Achaemenid Assyria, wedi'i leoli ger ceg Afon Malir Karachi,[18][19][20] er bod rhai'n credu ei fod wedi'i leoli ger Gizri.[21][22] Nid oes harbwr naturiol arall yn bodoli ger ceg yr Indus a allai ddarparu ar gyfer cymaint o longau.[23]
Yn 711 CE, fe orchfygodd Muhammad bin Qasim Ddyffryn Sindh ac Indus a phorthladd Debal, ac oddi yno y lawnsiodd ei luoedd ymhellach i Ddyffryn Indus yn 712.[24] Mae rhai wedi uniaethu’r porthladd â Karachi, er bod rhai yn dadlau bod y lleoliad rywle rhwng Karachi a dinas gyfagos Thatta.[25][26]
O dan Mirza Ghazi Beg, gweinyddwr Mughal Sindh, anogwyd datblygiad arfordir Sindh a Delta Afon Indus. O dan ei reolaeth ef, roedd amddiffynfeydd y rhanbarth yn effeithiol yn erbyn cyrchoedd Portiwgalaidd a geisiant ymosod ar Sindh. Yn 1553–54, soniodd y llyngesydd Otomanaidd Seydi Ali Reis, am borthladd bach ar hyd arfordir Sindh o’r enw Kaurashi a allai fod yn Karachi.[27][28][29] Adeiladwyd beddrodau Chaukhandi ym maestrefi modern Karachi tua'r adeg hon rhwng y 15g a'r 18g.
Amcangyfrifir bod poblogaeth Karachi ar y pryd rhwng 8,000 a 14,000[30], ac roedd wedi'i gyfyngu i'r ddinas gaerog ym Mithadar, gyda maestrefi yn yr hyn sydd bellach yn Chwarter Serai.[31]
Sefydlodd milwyr Prydain, a lusenwyd yn "Company Bahadur" wersyll i'r dwyrain o'r ddinas wedi iddynt ei goresgyn, a ddaeth yn rhagflaenydd y Treganna (neu Cantonment) Karachi modern. Datblygodd y Prydeinwyr Dreganna Karachi ymhellach fel garsiwn milwrol i gynorthwyo ymdrech rhyfel Prydain yn y Rhyfel Eingl-Afghanistan Cyntaf.[32]
Symudwyd prifddinas Sindh o Hyderabad i Karachi ym 1840 hyd 1843, pan atodwyd Karachi i’r Ymerodraeth Brydeinig ar ôl i’r Uwchfrigadydd Charles James Napier gipio gweddill Sindh yn dilyn ei fuddugoliaeth yn erbyn y Talpurs ym Mrwydr Miani. Yn dilyn uniad 1843, unwyd y dalaith gyfan o fewn "Arlywyddiaeth Bombay" am y 93 mlynedd nesaf. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ym 1846, dioddefodd Karachi achos mawr o golera, a arweiniodd at sefydlu Bwrdd Cholera Karachi (rhagflaenydd llywodraeth ddinesig y ddinas).[33]
Karachi, Pakistan's largest city, with a population of approx. 3.0 crore (Mumbai has 2 crore people) is the country's most educated, liberal and secular metropolis.
This all happened in the heart of KarachiNodyn:Snda relatively liberal city with a population of more than 15 million.