Jerry Springer | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Chwefror 1944 ![]() Highgate tube station ![]() |
Bu farw | 27 Ebrill 2023 ![]() o canser y pancreas ![]() Chicago ![]() |
Man preswyl | Llundain, Dinas Efrog Newydd, Cincinnati, Loveland, Ohio ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, newyddiadurwr, actor, cyfreithiwr, cyflwynydd newyddion, cynhyrchydd ffilm, cerddor, podcastiwr ![]() |
Swydd | Cincinnati City Council member, Cincinnati City Council member, mayor of Cincinnati, Ohio ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd ![]() |
Tad | Richard Springer ![]() |
Gwefan | https://jerryspringer.com ![]() |
Darlledwr, newyddiadurwr, actor, cynhyrchydd, cyfreithiwr a gwleidydd Americanaidd oedd Gerald Norman Springer (13 Chwefror 1944 – 27 Ebrill 2023). [1] Cafodd Springer ei eni yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei fagu yn Queens, Dinas Efrog Newydd, UDA.
Fel gwleidydd, gwasanaethodd Springer fel 56fed Maer Cincinnati rhwng 1977 a 1978. Bu'n gweithio fel newyddiadurwr yn Cincinnati. Roedd Springer yn fwyaf adnabyddus am y sioe siarad tabloid a oedd weithiau’n ddadleuol, Jerry Springer, rhwng 1991 a 2018. Roedd e'n gyflwynydd America's Got Talent o 2007 i 2008.[2]
Cafodd Springer ei eni[3] yng ngorsaf Underground Highgate tra roedd yr orsaf yn cael ei defnyddio fel lloches.[4][5], yn fab i Margot (née Kallmann) a Richard Springer.[6][7][8]
Bu farw Springer yn ei gartref yn Evanston, Illinois, yn 79 oed[9][10], o ganser y pancreas.[11]