Jan Morris | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | James Humphry Morris ![]() 2 Hydref 1926 ![]() Clevedon ![]() |
Bu farw | 20 Tachwedd 2020 ![]() Pwllheli ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd, awdur, newyddiadurwr ![]() |
Plant | Twm Morys ![]() |
Gwobr/au | CBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Heinemann Award ![]() |
Awdures a hanesydd Cymreig oedd Jan Morris CBE (2 Hydref 1926 – 20 Tachwedd 2020).[1]
Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei thriawd Pax Britannica, hanes Ymerodraeth Prydain, a phortreadau dinasoedd, yn enwedig Rhydychen, Fenis, Trieste a Dinas Efrog Newydd. Ysgrifennodd am hanes a diwylliant Sbaen. Ystyriodd ei hun yn Gymraes a symudodd i Lanystumdwy yn yr 1960au.
Fel James Morris, roedd hi'n aelod o'r cyrch ar Everest yn 1953 gan griw Edmund Hillary, a ddringodd y mynydd am y tro cyntaf.[2] Hi oedd yr unig newyddiadurwr i fynd ar y cyrch, gan ddringo gyda'r tîm i'r gwersyll 22,000 troedfedd fyny ar y mynydd, gan anfon y cyhoeddiad nodedig yn ôl i bapur newydd The Times mewn pryd i'w gyhoeddi ar 2 Mehefin 1953, diwrnod coroni Elizabeth II.[3]
Ganwyd James Humphrey Morris yn Clevedon, Gwlad yr Haf i fam o Loegr a thad o Gymru. Fe'i addysgwyd yn Lancing College, Gorllewin Sussex.
Ym 1949, pan oedd dal yn James, priododd Elizabeth Tuckniss, merch i blannwr tê. Cafodd Morris a Tuckniss bump o blant gyda'i gilydd, sef y bardd a'r cerddor Twm Morys, Henry Morris, Mark Morris a Suki Morys. Bu farw un o'u plant pan oedd yn faban.
Dywedodd Morris yn ei hunangofiant Conundrum iddi ddechrau trawsnewid rhywedd ym 1964. Erbyn 1972, cafodd lawdriniaeth newid rhyw ym Moroco. Gwnaed y llawdriniaeth gan Georges Burou, am fod doctoriaid yn y Deyrnas Unedig yn gwrthod gwneud y llawdriniaeth oni bai fod Morris a Tuckniss yn ysgaru, rhywbeth nad oedd Morris yn awyddus i wneud bryd hynny.[4] Ysgarodd y ddau ohonynt yn ddiweddarach, ond arhosodd y ddau gyda'i gilydd. Ar 14 Mai 2008 unwyd y ddau ohonynt yn gyfreithiol drwy bartneriaeth sifil.[5]
Cyhoeddwyd ei marwolaeth yn 94 mlwydd oed gan ei mab Twm Morys ar 20 Tachwedd 2020. Bu farw am 11:40 yn Ysbyty Bryn Beryl ym Mwllheli, Llŷn.