Ioan Roberts | |
---|---|
Ffugenw | Io Mo |
Ganwyd | 22 Tachwedd 1941 Rhoshirwaun |
Bu farw | 29 Rhagfyr 2019 Porthdinllaen |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, golygydd, peiriannydd sifil |
Newyddiadurwr, awdur a golygydd oedd Ioan Roberts (Tachwedd 1941 – 29 Rhagfyr 2019).
Ganwyd yn Rhoshirwaun, Llŷn ac fe'i hyfforddwyd fel peiriannydd sifil.[1]
Cychwynnodd ei yrfa newyddiadurol gyda phapur newydd Y Cymro gan ddod yn brif ohebydd. Bu'n olygydd gyda rhaglen newyddion Y Dydd ar HTV, cyn dod yn olygydd newyddion BBC Radio Cymru, ac yn gynhyrchydd nifer o raglenni S4C. Roedd yn gyd-gynhyrchydd cyfres Hel Straeon gyda Wil Owen.[2]
Yn dilyn ei yrfa ddarlledu, daeth yn olygydd ac awdur llyfrau. Ysgrifennodd a golygodd nifer o lyfrau ffeithiol a bywgraffiadau gan gynnwys casgliadau o luniau'r ffotograffydd Geoff Charles a chofiant i'r ffotonewyddiadurwr rhyngwladol, Philip Jones Griffiths. Golygodd lyfr ar hanes y gyfres deledu C'mon Midffîld!.
Roedd yn briod ag Alwena ac yn byw ym Mhwllheli[3]. Roedd ganddynt ddau o blant.