AC Huw Lewis | |
![]()
| |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 6 Ebrill 2016 | |
Rhagflaenydd | Swydd newydd |
---|---|
Geni | ![]() | 17 Ionawr 1964
Plaid wleidyddol | Llafur Cydweithredol |
Alma mater | Prifysgol Caeredin |
Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru (AC) y Blaid Lafur dros Merthyr Tudful a Rhymni ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999 yw Huw Lewis. Cafodd ei benodi yn Weinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru yn Mehefin 2013.[1]
Cafodd ei eni ym Merthyr Tydfil a'i fagu yn Aberfan, cyn astudio ym Mhrifysgol Caeredin. Ymunodd â Plaid Lafur yr Alban a gweithiodd i Arweinydd y Blaid Lafur John Smith ac yna Donald Dewar. Ymgyrchodd yn frwd dros Gynulliad i'r Alban.[2]
Dychwelodd i dde Cymru lle y bu'n dysgu cemeg yn Ysgol Afon Taf, cyn cael swydd llawn amser gyda'r Blaid Lafur.