Y gwarth! Y cywilydd! Llun gan Jacques-Pierre Maygnier o 1822 yn dangos y geinecolegydd yn cyfaddawdu â modesti oes Victoria drwy beidio ac edrych ar organau rhyw y ferch.
Mewn anatomeg ddynol, gynecoleg (neu geinecoleg) ydy'r astudiaeth o iechyd system atgenhedlu benyw: yr iwterws, fagina ac ofaris. Ystyr y gair Groeg ydy "gwyddoniaeth merched". Geinecolegydd ydy person sy'n arbenigo mewn geinecoleg. Mae bron pob geinecolegydd hefyd yn obstetrician (sy'n arbenigo mewn beichiogrwydd) a'r geni ei hun yn ogystal â'r organau rhyw benywaidd.