Gwern Gwynfil
Ganwyd1974 Edit this on Wikidata
Ysbyty Cyffredinol Bronglais Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
MamRhiannon Evans Edit this on Wikidata

Dyn busnes a gwleidydd yw Gwern Gwynfil Evans. Mae ganddo gefndir busnes cryf, a bu'n Rheolwr Gyfarwyddwr y busnes teuluol yn Nhregaron, Rhiannon Cyf, am ddeunaw mlynedd. Sefydlwyd y cwmni gan ei fam ac mae’n masnachu'n rhyngwladol.

Magwyd ef yn Nhregaron yn un o bedwar plentyn Rhiannon Evans a Dafydd Gwyn Evans. Ei dadcu oedd Evan Evans (1882 - 1965). Mae Gwern yn dad i 5 o blant. Graddiodd Gwern mewn hanes yng Ngoleg Iesu, Rhydychen gan ennill diploma i ôl-raddedigion o Brifysgol Aberystwyth.[1] Gweithiodd gyda sawl sefydliad cyn dychwelyd i'r busnes teuluol yn 2004.

Gwern yoedd Prif Weithredwr cyntaf YesCymru rhwng 2022 a Rhagfyr 2023.[2]

Cyfeiriadau

  1. "Tregaron businessman named CEO of Yes Cymru". Cambrian News. 2022-09-05. Cyrchwyd 2024-01-14.
  2. "YesCymru yn cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr". YesCymru CY. Cyrchwyd 2024-01-14.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.