Cyflwr o anweithgarwch a gostyngiad metabolig mewn anifeiliaid yn ystod y gaeaf yw gaeafgwsg a nodir gan dymheredd corff is, anadlu arafach, a chyfradd fetabolig is. Mae anifeiliaid sy'n gaeafgysgu yn cadw egni pan bo bwyd yn brin trwy alw'n araf ar eu cronfeydd egni, megis braster y corff. Gan amlaf mamaliaid sy'n gaeafgysgu, yn enwedig cnofilod.