Enghraifft o'r canlynol | ideoleg, cysyniad athronyddol |
---|---|
Math | barn y byd |
Fel arfer mae gan ffwndamentaliaeth arwyddocâd crefyddol sy'n dynodi ymlyniad diwyro i set o gredoau set.[1] Bellach, gall gyfeirio at duedd ymhlith rhai grwpiau - yn bennaf, er nid yn gyfan gwbl, mewn crefydd - a nodweddir gan set o reolau hynod gaeth, ac yn cael ei gymhwyso i rai ysgrythurau, dogmas, neu ideolegau penodol. Yn aml, ceir dehongliad llythrennol o'r rhain.
Credir hefyd yn y pwysigrwydd o gynnal gwahaniaethau rhwng beth a ganiateir mewn un grŵp, a'r hyn sydd y tu allan i'r grŵp.[2][3][4][5] Rhoddir pwyslais ar burdeb y set o gredoau, a'r awydd i ddychwelyd i ddelfryd neu ddehongliad blaenorol y mae eiriolwyr yn credu bod aelodau wedi crwydro ohoni. Mae gwrthod amrywiaeth ac 'annibyniaeth barn' o fewn y grŵp yn aml yn deillio o'r duedd hon.[6]
Yng Nghymru, gellir gweld 'agweddau o ffwndamentaliaeth' yn dod i'r golwg pan sefydlwyd Mudiad Efengylaidd Cymru yn 1947.[7]
Cafodd y term ei ddefnyddio'n gyntaf i ddisgrifio'r mudiad ceidwadol ymysg Protestaniaid a ddechreuodd yn Unol Daleithiau America yn hwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pwysleisiodd y credoau canlynol fel sylfeini llwyr Cristnogaeth: anffaeledigrwydd y Beibl, yr Enedigaeth Wyryfol a duwdod Iesu Grist, aberth Crist ar y groes fel cymod am bechodau holl bobl, atgyfodiad corfforol ac Ail Ddyfodiad Crist, ac atgyfodiad corfforol credinwyr.
Yn dibynnu ar y cyd-destun, gall y label "ffwndamentaliaeth" fod yn nodwedd ddifrïol yn hytrach na niwtral, yn debyg i'r ffyrdd y gall galw safbwyntiau gwleidyddol yn "adain dde" neu'n "adain chwith" fod â chynodiadau negyddol.[8]
Mae ffwndamentaliaeth Fwdhaidd wedi targedu grwpiau crefyddol ac ethnig eraill mewn llefydd fel Myanmar. Fel gwlad sy’n cael ei dominyddu gan Fwdhyddion, mae Myanmar wedi gweld tensiynau rhwng lleiafrifoedd Mwslimaidd a’r mwyafrif Bwdhaidd yn enwedig yn ystod terfysgoedd gwrth-Fwslimaidd Burma 2013 (a gychwynnwyd o bosibl gan grwpiau caled fel y Mudiad 969),[9] yn ogystal ag yn ystod gweithredoedd sy'n gysylltiedig â hil-laddiad Rohingya (2016 ymlaen).
Gwelir ffwndamentaliaeth Fwdhaidd hefyd yn Sri Lanka, sy’n cael ei rheoli gan Fwdhyddion. Yno, cafwyd tensiynau diweddar rhwng lleiafrifoedd Mwslimaidd a’r mwyafrif Bwdhaidd, yn enwedig yn ystod terfysgoedd gwrth-Fwslimaidd 2014 yn Sri Lanka[10] ac yn ystod terfysgoedd gwrth-Fwslimaidd 2018 yn Sri Lanka,[11] a gychwynnwyd gan grwpiau caled fel Sena Bodu Bala, yn ôl llawer.
Ceir enghreifftiau hanesyddol a chyfoes o ffwndamentaliaeth Fwdhaidd ym mhob un o'r tair prif gangen o Fwdhaeth: Theravada, Mahayana, a Vajrayana. Yn Japan, enghraifft amlwg fu’r arfer ymhlith rhai aelodau o sect Mahayana Nichiren o shakubuku — dull o broselyteiddio sy’n golygu condemnio sectau eraill yn llym fel rhai diffygiol neu ddrwg.
Mae George Marsden wedi diffinio ffwndamentaliaeth Gristnogol fel y galw am ymlyniad caeth i rai athrawiaethau diwinyddol, yn groes i ddiwinyddiaeth Fodern.[12] Bathodd ei chefnogwyr y term yn wreiddiol er mwyn disgrifio’r hyn a honnent oedd yn bum cred ddiwinyddol glasurol benodol o Gristnogaeth, ac arweiniodd y defnydd o'r term at ddatblygiad mudiad ffwndamentalaidd Cristnogol o fewn cymuned Brotestannaidd yr Unol Daleithiau yn gynnar yn yr 20G.[13] Cododd ffwndamentaliaeth fel mudiad yn yr Unol Daleithiau, gan ddechrau ymhlith diwinyddion Presbyteraidd ceidwadol yn y Princeton Theological Seminary ar ddiwedd y 19g. Ymledodd yn fuan i geidwadwyr ymhlith y Bedyddwyr ac enwadau eraill rhwng 1910 a 1920. Pwrpas y mudiad oedd ailddatgan daliadau diwinyddol allweddol a'u hamddiffyn rhag heriau diwinyddiaeth Ryddfrydol a beirniadaeth uwch.[14]
Mae gan y cysyniad o "ffwndamentaliaeth" wreiddiau yng 'Nghynadleddau Beiblaidd Niagara' a gynhaliwyd yn flynyddol rhwng 1878 a 1897. Yn ystod y cynadleddau hynny, nodwyd y daliadau a ystyriwyd yn gred Gristnogol sylfaenol.
Yng Nghymru, gellir gweld 'agweddau o ffwndamentaliaeth' yn dod i'r golwg pan sefydlwyd Mudiad Efengylaidd Cymru yn 1947.[7]
Rhag-ffurfiwyd "Ffwndamentaliaeth" gan The Fundamentals: A Testimony To The Truth, sef casgliad o ddeuddeg pamffled a gyhoeddwyd rhwng 1910 a 1915, gan y brodyr Milton a Lyman Stewart. Caiff ei ystyried yn eang fel sylfaen ffwndamentaliaeth Gristnogol fodern.
Ym 1910, nododd Cymanfa Gyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd yr hyn a ddaeth i gael ei adnabod fel y pum hanfod:[15]
Ym 1920 y defnyddiwyd y gair "ffwndamentalydd" gyntaf, mewn print, a hynny gan Curtis Lee Laws, golygydd "The Watchman Examiner," papur newydd y Bedyddwyr yn Kentucky.[16] Yn dilyn hyn, pasiwyd deddfau yn UDA y dylid galw'r Cristnogion hynny a oedd yn ymladd dros hanfodion eu ffydd yn "ffwndamentalwyr."[17]
Daeth ceidwadwyr diwinyddol, eiriolwyr y pum hanfod i gael eu hadnabod fel "ffwndamentalwyr". Gwrthodasant fodolaeth cyffredinedd â thraddodiadau crefyddol cysylltiedig â diwinyddiaeth, megis grwpio Cristnogaeth, Islam, ac Iddewiaeth yn un teulu o grefyddau Abrahamig.[3] Mewn cyferbyniad, tra bod grwpiau Efengylaidd (fel Cymdeithas Efengylaidd Billy Graham) fel arfer yn cytuno â'r "hanfodion ffwndamentalaidd" hyn, maent yn aml yn barod i gymryd rhan mewn digwyddiadau gyda grwpiau crefyddol eraill, nad ydynt yn cadw at yr athrawiaethau hanfodol.[18]
Mae Hindŵaeth yn cynnwys amrywiaeth o syniadau am ysbrydolrwydd a thraddodiadau, ond nid oes ganddi unrhyw drefn eglwysig, dim awdurdod crefyddol diamheuol o fath yn y byd, dim corff llywodraethu, dim un proffwyd, nac unrhyw lyfr sanctaidd. Gall Hindŵiaid ddewis bod yn amldduwiol, yn pantheistig, panentheistig, pandeistig, henotheistig, monotheisticg (undduwiol), monistig, agnostig, anffyddiol neu'n ddyneiddiol.[19][20][21] Yn ôl Doniger, "mae syniadau am holl faterion mawr ffydd a ffordd o fyw - llysieuaeth, heddychiaeth, cred mewn ailenedigaeth, hyd yn oed cast - yn bynciau dadl, nid dogma bur."[22]
Oherwydd yr ystod eang o draddodiadau a syniadau a gwmpesir gan y term Hindŵaeth, mae diffyg diwinyddiaeth 'sylfaenol' yn golygu ei bod yn anodd dod o hyd i 'ffwndamentaliaeth grefyddol' ddogmatig fel y cyfryw ynddi.[23] Mae'r grefydd "yn herio ein hawydd i'w diffinio a'i chategoreiddio". Yn India, mae'r term dharma yn cael ei ffafrio, sy'n ehangach na'r term Gorllewinol crefydd.[24]
Felly, mae rhai ysgolheigion yn dadlau nad oes gan Hindŵaeth ddogma na "ffwndamentaliaeth," tra bod ysgolheigion eraill yn nodi sawl mudiad Hindŵaidd sy'n weithgar yn wleidyddol fel rhan o "deulu ffwndamentalaidd Hindŵaidd."[25][26]
Mae ffwndamentaliaeth o fewn Islam yn mynd yn ôl i'r 7g, i gyfnod y Kharijiaid.[27] O'u sefyllfa wleidyddol, fe ddatblygon nhw athrawiaethau eithafol a oedd yn eu gosod ar wahân i Fwslimiaid prif ffrwd Shia a Sunni. Roedd y Kharijites yn arbennig o nodedig am fabwysiadu agwedd radical tuag at takfir, a oedd yn datgan bod Mwslimiaid eraill yn anghredinwyr ac felly'n eu hystyried yn deilwng o farwolaeth.[27][28][29][30]
Creodd gwrthdaro crefyddol rhwng y Shia a'r Sunni ers y 7g agoriad i ideolegau radicalaidd, megis Ali Shariati (1933–77), i uno chwyldro cymdeithasol â ffwndamentaliaeth Islamaidd, fel y dangoswyd gan Chwyldro Islamaidd Iran yn 1979.[31] Mae ffwndamentaliaeth Islamaidd wedi ymddangos mewn llawer o wledydd;[32] hyrwyddir fersiwn Salafi- Wahhabi ledled y byd a'i ariannu gan Saudi Arabia, Qatar, a Phacistan.[33][34][35][36]
Roedd argyfwng gwystlon Iran 1979-80 yn drobwynt mawr yn y defnydd o'r term "ffwndamentaliaeth". Disgrifiwyd yr argyfwng hwn gan y cyfryngau, mewn ymgais i egluro ideoleg Ayatollah Khomeini a'r Chwyldro Iran i gynulleidfa Orllewinol fel "fersiwn ffwndamentalaidd o Islam". Fe'i cymharwyd i'r mudiad ffwndamentalaidd Cristnogol yn yr Unol Daleithiau, a bathwyd y term ffwndamentalaidd Islamaidd, a ddefnyddiwyd yn gyffredin mewn ystyron negyddol, yn y blynyddoedd dilynol.
Ideoleg ffwndamentalaidd, wleidyddol sy'n cyfuno Seioniaeth ac Iddewiaeth Uniongred yw Seioniaeth Grefyddol (neu Tziyonut Datit).
Defnyddiwyd ffwndamentaliaeth Iddewig i nodweddu Seioniaeth grefyddol filwriaethus, a fersiynau Ashkenazi a Sephardig o Iddewiaeth Haredi.[37] Mae Ian S Lustik wedi nodweddu ffwndamentaliaeth Iddewig fel "ideoleg genedlaetholgar."[38]
Mae eu hideoleg yn troi o amgylch tair colofn: Gwlad Israel, Pobl Israel, a Torah Israel.[39]
Dyma ddywed Gwyddoniadur y Britannica:
“ | Ceir tri phrif dueddiad yn Iddewiaeth Israel sy'n ffwndamentalaidd: Seioniaeth grefyddol filwriaethus, yr Ashkenazim tra-Uniongrededd, a'r Sephardim tra-Uniongrededd (Iddewon o darddiad y Dwyrain Canol) fel y'i cynrychiolir gan y Shas, plaid wleidyddol. Mae pob un o'r tri grŵp yn pwysleisio'r angen am gydymffurfio llym â'r deddfau crefyddol a'r praeseptau moesol sydd wedi'u cynnwys yn y testunau sanctaidd Iddewig, y Torah a'r Talmud.[40] | ” |
Mae defnydd gwleidyddol o'r term "ffwndamentaliaeth" wedi'i feirniadu. Mae wedi cael ei ddefnyddio gan grwpiau gwleidyddol i frawychu gwrthwynebwyr, gan ddefnyddio'r term yn llac, yn ddibynnol ar eu diddordebau gwleidyddol.
Yn ôl Judith Nagata, athro Sefydliad Ymchwil Asia ym Mhrifysgol Genedlaethol Singapôr,“ Canmolwyd mujahiddin Afghanistan, a oedd yn brwydro yn erbyn y gelyn Sofietaidd yn yr 1980au, fel ‘ymladdwyr dros ryddid’ gan eu cefnogwyr Americanaidd ar y pryd, tra bod y Taliban presennol, sydd wedi amddiffyn gelyn mawr America Osama bin Laden, heb os yn grŵp 'ffwndamentalaidd'." [41]
Yn Ffrainc, yn ystod gorymdaith yn erbyn gosod cyfyngiadau ar y defnydd o benwisgoedd mewn ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth, cafwyd baner yn labelu’r gwaharddiad fel “ffwndamentaliaeth seciwlar”.[42][43] Yn yr Unol Daleithiau, mae anoddefiad preifat neu ddiwylliannol o ferched yn gwisgo'r hijab (gorchudd pen Islamaidd) ac actifiaeth wleidyddol gan Fwslimiaid hefyd wedi'i labelu'n "ffwndamentaliaeth seciwlar".[44]
Canfu astudiaeth ym Mhrifysgol Caeredin, "fod deallusrwydd isel yn fwyaf cysylltiedig â lefelau uchel o ffwndamentaliaeth." [45]
Nearly 22 months have passed since the atrocity of September 11th. Since then, many questions have been asked about the role in that day's terrible events and in other challenges we face in the war against terror of Saudi Arabia and its official sect, a separatist, exclusionary and violent form of Islam known as Wahhabism. It is widely recognized that all of the 19 suicide pilots were Wahhabi followers. In addition, 15 of the 19 were Saudi subjects. Journalists and experts, as well as spokespeople of the world, have said that Wahhabism is the source of the overwhelming majority of terrorist atrocities in today's world, from Morocco to Indonesia, via Israel, Saudi Arabia, Chechnya. In addition, Saudi media sources have identified Wahhabi agents from Saudi Arabia as being responsible for terrorist attacks on U.S. troops in Iraq. The Washington Post has confirmed Wahhabi involvement in attacks against U.S. forces in Fallujah. To examine the role of Wahhabism and terrorism is not to label all Muslims as extremists. Indeed, I want to make this point very, very clear. It is the exact opposite. Analyzing Wahhabism means identifying the extreme element that, although enjoying immense political and financial resources, thanks to support by a sector of the Saudi state, seeks to globally hijack Islam [...] The problem we are looking at today is the State-sponsored doctrine and funding of an extremist ideology that provides the recruiting grounds, support infrastructure and monetary life blood of today's international terrorists. The extremist ideology is Wahhabism, a major force behind terrorist groups, like al Qaeda, a group that, according to the FBI, and I am quoting, is the "number one terrorist threat to the U.S. today".