Enw llawn | Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (International Standard Name Identifier) |
---|---|
Talfyriad | ISNI |
Cyflwynwyd | 15 Mawrth 2012 |
Corff safoni | ISNI-IA |
Nifer o ddigidau | 16 |
Enghraifft | 000000012146438X |
Gwefan | isni.org/ |
Mae Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (Saesneg: International Standard Name Identifier ('ISNI') yn ddull o adnabod hunaniaeth unigryw cyfrannwyr i gyfryngau megis y we, llyfr, rhaglenni teledu neu albymau sain. Mae'r dynodwr a ddefnyddir yn cynnwys 16 digid rhifol wedi'i rannu'n bedwar tamaid.
Fe'i datblygwyd gan Y Mudiad Rhyngwladol dros Safoni fel Safon Rhyngwladol Ddrafft[1] yn gyntaf cyn ei dderbyn yn ffurfiol ar 15 Mawrth 2012. Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng enwau pobl (yn enwedig o fewn y cyfryngau) y gellid, fel arall, eu cymysgu.
Mae dynodwyr ORCID (Open Researcher and Contributor ID) yn flociau o ddynodwyr ISNI a ddefnyddir ar gyfer y byd academaidd yn bennaf.[2] a gaiff ei weinyddu gan gorff cwbwl wahanol.[2] Gall ymchwilwyr yma greu a hawlio dydnodwyr ORIC eu hunain.[3] Mae'r ddau fudiad yn cydweithio'n agos a'i gilydd.[2][3]
Mae gan Wicidata briodwedd, P213, am ISNI (gweler y defnydd ohono) |
Mae gan Wicidata briodwedd, P213, am ISNI (gweler y defnydd ohono) |