Caiff dylunio, ei ystyried fel arfer yn arlunio, peirianneg, pensaernïaeth, ac ym meysydd creadigol eraill. Yn y broses o ddylunio, mae dylunydd fel arfer yn ystyried agweddau estheteg, gweithrediad, a nifer o elfennau eraill sy'n gofyn am ymchwil, meddwl, modelu, addasu, ac ail-ddylunio helaeth.

Athroniaeth dylunio

[golygu | golygu cod]

Gall astudio natur ac effaith dylunio fod yn ddi-ddal. Does dim iaith dylunio unedig na chorff unedig o ddylunwyr o bob disgyblaeth. Gall llwyddiant achosi disgwyliadau uwch fel ym mhob maes, ond yn nylunio yn arbennig does dim modd o fesur y llwyddiant.

Mae nifer fawr o athroniaethau sy'n tywys dylunio a gwerthoedd dylunio, gan fod agweddau gwahanol ar gyfer pob elfen o ddylunio, ac ar gyfer pob ffordd o feddwl a phob dylunydd unigol.[1] Defnyddir athroniaeth dylunio ar gyfer penderfynu targedau. Gall targed dylunio fod yn rhywbeth megis datrys problemau unigol pwysig yr elfen lleiaf, hyd at targedau dylanwadol, hynod o holistig a delfrydol. Defnyddir targedau fel arfer er mwyn tywys dylunio, er gall hyn gwrth-ddweud y targedau syml, ac arwain at gwestiynu pwrpas y dylunio. Dros amser hir, fe all hyn wella safon y dylunio.

Y Broses Ddylunio

[golygu | golygu cod]

Gall rhannau o'r broses o ddylunio gynnwys yr elfennau canlynol:

Diffinio dylunio

[golygu | golygu cod]

Ystyrir ddylunio'n aml yn ffurf fwy llym o Arlunio, neu yn Arlunio gyda phwrpas penodedig. Gwelir y gwahaniaethu yn bennaf pan mai rhywun heblaw'r arlunydd sy'n penderfynu'r pwrpas. Mewn Graffeg, gwelir y gwahaniaethu yn aml rhwng Celf gain a Chelf masnachol.

Ystyrir peiriannu'n aml yn ffurf fwy llym o ddylunio. Gellid dadlau fod peiriannu a dylunio yn rhan o'r un broses neu dim ond yn rhannu elfennau, gan ddibynnu ar ddisgyblaeth y dylunio. Mae'r ddau yn ffurf o ddatrys problemau, gyda'r diffiniad rhwng y ddau yn bodoli yn y defnydd o sylfaeni gwyddonol a mathemategol mewn peiriannu. Gall faint o wyddoniaeth a dylunio a ddefnyddir gwestiynu os yw'r broses yn un o beirianneg neu wyddoniaeth; o fath cymdeithasol neu naturiol.

Mae'r berthynas rhwng dylunio a chynhyrchu yn un o gynllunio a gweithredu. Mewn damcan dylai'r cynllun ragweld a iawndalu unrhyw broblemau a godai yn ystod y broses. Mae dylunio yn cynnwys bod yn greadigol a datrys problemau, mae cynhyrchu ar y llaw arall, yn broses a gynllunwyd o flaen llaw. Mae peirianwyr a chynhyrchwyr fel arfer yn gweithio tuag at creu cynllun y dylunwyr, er mae disgwyl i ddylunwyr gael syniad da o weithrediad y broses o beiriannu a chynhyrchu, iddynt allu dylunio yn fwy effeithlon.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Disgyblaethau dylunio

[golygu | golygu cod]

Gall sawl o'r rest hefyd eu cysidro yn Ddylunio Masnachol.

Cymhwysiad

  • Dylunio Gemau
  • Peiriannu Meddalwedd
  • Dylunio Meddalwedd
  • Datblygu Meddalwedd
  • Dylunio Systemau
  • Hygyrched y Wê
  • Dylunio'r Wê

Cyfarthrebu

  • Dylunio Lliw
  • Dylunio Cyfarthrebu
  • Dylunio Cynnwys
  • Dylunio Graffeg
  • Dylunio Gwybodaeth
  • Dylunio Canllawiau
  • Dylunio Graffeg Symudol
  • Dylunio Newyddion
  • Dylunio Pecynu
  • Dylunio Cynnyrch
  • Dylunio Sain
  • Dylunio Theatr
  • Teipograffeg
  • Cyfarthrebu Gweledol

Corfforol

  • Pensaerniaeth
  • Peirianeg Pensaernio
  • Dylunio ceir
  • Crochenwaith a Gwydr
  • Peirianydd Dylunio
  • Dylunio Amgylchedd
  • Dylunio Ffasiwn
  • Dylunio Dodrefn
  • Dylunio gerddi
  • Dylunio Diwydiannol
  • Dylunio Tu Mewn
  • Landscape architecture
  • Peirianeg Mecanegol
  • Dylunio Cynhaelaethog
  • Dylunio Dinesig

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Holm, Ivar (2006). Ideas and Beliefs in Architecture and Industrial design: How attitudes, orientations and underlying assumptions shape the built environment. Oslo School of Architecture and Design. ISBN 8254701741.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]