Stradun, stryd fawr DubrovnikYr Hen Dref o'r awyrYr hen ddinas
Mae Dubrovnik (Nodyn:IPA-hrNodyn:IPA-hr;[1] hanesyddol Lladin: Ragusa) yn ddinas Croataidd ar arfordir y Mor Adriatig. Mae'n un o brif atyniadau i dwristiaid ar For y Canoldir, gyda phorthladd a chanolbarth canolfan Dubrovnik-Neretva County. Cyfanswm ei phoblogaeth fel dinas yw 42,615 (cyfrifiad). Yn 1979, ymunodd dinas Dubrovnik a rhestr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth Byd-eang,
Roedd ffyniant y ddinas yn seiliedig yn hanesyddol ar fasnach morwrol; fel prifddinas hen Weriniaeth Ragusa. datblygodd yn sylweddol, yn arbennig yn ystod y 15fed a 16g, wrth iddi ddod yn fwy nodedig am ei chyfoeth a'i diplomyddiaeth fedrus.
Yn 1991, yn dilyn hollti'r hen Iwgoslafia, daeth Dubrovnik dan warchae milwyr Serbaidd a Montenegrin Byddin y Bobl Iwgoslafaidd (JNA) am saith mis a dioddefodd ddifrod sylweddol o ganlyniad i'w bombardio.[2][3][4][5][6][7][8][9] Ar ôl gwaith atgyweirio ac adnewyddu yn y 1990au a'r 2000au cynnar, daeth Dubrovnik unwaith eto yn un o'r prif gyrchfannau twristaidd Mor y Canoldir.[10][11][12][13]
Bu'r enwau Dubrovnik a Ragusa yn cyd-fodoli am ganrifoedd lawer. Ragusa, enw a gofnodwyd mewn gwahanol ffurfiau ers y 10g, oedd enw swyddogol Gweriniaeth Ragusa tan 1808, ac enw'r ddinas of fewn i Deyrnas Dalmatia tan 1918, tra bod Dubrovnik, a oedd wedi'i gofnodi gyntaf fel enw ar ddiwedd y 12g, yn cael ei ddefnyddio yn eang erbyn diwedd y 16eg a dechrau'r 17g.[14]
Mae'r enw Dubrovnik ar gyfer y ddinas Adriatig wedi'i gofnodi gyntaf yn Siarter Ban Kulin (1189).[15] Ei darddiad mwyaf tebygol yw'r gair "dubron", enw Celtaidd ar gyfer dwr (Galeg dubron, Gwyddeleg dobar, Cymraeg dwr/dwfr, Cernyweg dofer), tebyg i'r toponymau Douvres, Dover, a Tauber.[16]