Dafydd Ifans | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ebrill 1949 ![]() Aberystwyth ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
Nofelydd a chyfieithydd Cymreig yw Dafydd Ifans (ganwyd 21 Ebrill 1949).
Ganwyd Ifans yn Aberystwyth, Ceredigion. Mynychodd Ysgol Gymraeg Aberystwyth hyd 1960, ac Ysgol Ramadeg Ardwyn rhwng 1960 ac 1967. Graddiodd o Brifysgol Bangor ym 1970 gyda Baglor y Celfyddydau. Ym 1972, enillodd ddiploma mewn paleograffeg a gweinyddiaeth archifau, ac enillodd Meistr y Celfyddydau ym 1974.
Gweithiodd fel cynorthwyydd ymchwil yn Adran Llawysgrifau a Chofnodion Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1972 hyd 1975, gan ddod yn gyd-geidwad yn ddiweddarach. Yn 2002, daeth yn gyd-gyfarwyddwr a phennaeth y casgliadau arbennig, ac yn 2005, yn gyd-gyfarwyddwr a phennaeth caffaeliadau.
Enillodd Ifans Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974.