Cynidr | |
---|---|
Ffynnon Gynydd | |
Ganwyd | 6 g Cymru |
Man preswyl | Y Clas-ar-Wy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | esgob |
Tad | Gwynllyw |
Mam | Santes Gwladys |
Sant Cymreig cynnar o'r 6g oedd Cynidr a fu'n esgob ar y Clas-ar-Wy, ym Mhowys.
Yn ôl y De Situ Brecheniauc ei fam oedd Ceingair ferch Brychan, ond ni wyddom pwy oedd ei dad.[1] Fodd bynnag, yn y Generatio Sancti Egwini dywedir mai Gwynllyw oedd ei dad a bod ganddo ddau frawd: Cadog ac Eigion. Yn ôl Breverton, roedd Cynidr yn fab i Gwladys,[2] ac yn ŵyr i Brychan.[3][4]
Mae'r Bywgraffiadur Arlein yn nodi tair mam posibl:
Ar wahân i Glas-ar-Wy, roedd ganddo gysylltiadau gydag eglwysi Aberysgir, Llan-y-wern, Cantref a Llangynidr, i gyd ym Mrycheiniog. Credir fod ganddo hefyd gysylltiadau gydag lle a enwir yn Llyfr Llandaf yn 'Llanncinitir' yn Erging, hen deyrnas Gymreig a oedd a'i hanner ym Mynwy a hanner yn yr hyn a elwir heddiw yn Swydd Henffordd (Archenfield cyn hynny).[6] Yng Nghlas-ar-Wy, ceir ffynnon hynafol i gofio amdano, a elwir yn "Ffynnon Gynydd".
Yng Nghlas-ar-Wy y bu farw ac yno y claddwyd ef.[7] Mae ei Ŵyl Masant ar 27 Rhagfyr.