Crymlyn
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,947, 5,658 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,296.88 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6798°N 3.1368°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000906 Edit this on Wikidata
Cod OSST215985 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhianon Passmore (Llafur)
AS/auRuth Jones (Llafur)
Map
Erthygl am y dref ym mwrdeistref sirol Caerffili yw hon. Ceir mannau eraill sy'n dwyn yr enw 'Crymlyn' drwy Gymru.

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Caerffili, Cymru, yw Crymlyn[1] (Saesneg: Crumlin).[2] Saif yn nyffryn Afon Ebwy, bum milltir i'r gorllewin o dref Pont-y-pŵl, o fewn dim i'r ffin gyda Sir Fynwy.

Mae'r dref yn enwog am y bont reilffordd, a agorwyd yn 1857 ac a gaewyd yn 1964. Hon oedd y bont reilffordd uchaf ym Mhrydain ar hyd y cyfnod yma; roedd yn 220 troedfedd o uchder a 1,650 troedfedd o hyd. Bu raid chwalu'r bont yn 1967, gan ei bod mewn cyflwr peryglus. Cyn ei dymchwel, ffilmiwyd golygfeydd ar gyfer y ffilm Arabesque gyda Sophia Loren a Gregory Peck.

Roedd cangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn diweddu yma. Llanwyd y rhahn yma o'r gamlas yn niwedd y 1960au, i adeiladu'r briffordd A465. Caeodd gwaith glo'r Naviigation yn 1967. Cafwyd rhywfaint o ddiwydiant newydd; Crymlyn yw canolfan cynhyrchu Pot Noodle.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Gair cyfansawdd yw 'Crymlyn' (a'r hen sillafiad 'Crymlin' a 'Chrimlyn'): 'crwm' a 'llyn' (llyn gyda thro), ac fe'i nodwyd yn gyntaf yn 1630.[3] Daw'r enw o enw fferm, a phont dros Afon Ebwy, a leolir ger tro yn yr afon; cofnodir yr enw ""Pont Grymiyn" yn 1631.

Ceir "Tyddyn Crymlyn" yn Arfon, "Pont Grymlyn" a "Rhyw Crynlin" ger Tredegar, a "Chremelyn" (1319) a "Thir Pont Crimlin" ym Mro Morgannwg.[4]


Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Crymlyn (pob oed) (5,947)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Crymlyn) (590)
  
10.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Crymlyn) (5390)
  
90.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Crymlyn) (882)
  
36.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 26 Rhagfyr 2021
  3. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2008) t. 106.
  4. Archif Melville Richards; adalwyd 15 Mawrth 2017.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]