Charlie Parker | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 29 Awst 1920 ![]() Dinas Kansas, Kansas ![]() |
Bu farw | 12 Mawrth 1955 ![]() o niwmonia ![]() Dinas Efrog Newydd, Manhattan ![]() |
Label recordio | Verve Records, Savoy Records, Mercury Records, Dial Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr sacsoffon, cerddor jazz, cerddor, cyfansoddwr ![]() |
Arddull | jazz, bebop ![]() |
Prif ddylanwad | Buster Smith ![]() |
Priod | Chan Parker ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Grammy Chwaraewyr Jazz Unigol, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Kansas Music Hall of Fame ![]() |
Gwefan | https://charliebirdparker.com/ ![]() |
Sacsoffonydd jazz Americanaidd oedd Charlie Parker (yn gywir, Charles Parker Jr.; 29 Awst 1920 – 12 Mawrth 1955). Fe'i adnabuwyd hefyd gan y llysenwau Yardbird a Bird.[1] Ef yw ffigwr canolog yr is-arddull o fewn jazz sy'n dwyn yr enw bebop.[2]
Ganwyd Parker yn Kansas City, Kansas, a chafodd ei fagu yn Kansas City, Missouri, unig blentyn Charles Parker ac Adelaide "Addie" (Bailey), a oedd o gefndir cymysg du a Choctaw.[3] Dechreuodd chwarae'r sacsoffon yn 11 oed, gan ymuno â band ei ysgol yn 1914 ar ôl rhentu offeryn. Roedd ei dad yn bianydd ac yn ddawnsiwr a rhoddodd rhywfaint o arweinyddiaeth gerddorol i'r Parker ifanc.
O'r dechrau, bu Parker yn gweithio'n galed iawn ar ei gerddoriaeth: honnodd mewn cyfweliad iddo ymarfer am hyd at 15 awr y diwrnod am gyfnod o dair i bedair blwyddyn.[4] Chwaraeodd mewn nifer o fandiau yn y 30au hwyr a'r 40au cynnar, gan gynnwys band Earl Hines, lle'r oedd yn chwarae gyda'r trwmpedwr Dizzy Gillespie a fyddai'n gydymaith pwysig i Parker yn natblygiad bebop.
Yn ystod y 40au cynnar, roedd Parker yn un o grŵp o gerddorion yn gynnwys Gillespie, Thelonious Monk ac eraill a ddatblygodd arddull newydd o chwarae jazz a ddaeth i ddwyn yr enw bebop. Arddull oedd hon a oedd yn gyflymach ac yn fwy cymhleth o na swing o ran harmonïau a melodi, gan gynnig posibiliadau ehangach ar gyfer byrfyfyrio gan alw am feistrolaeth o'r offeryn. Er yn ddadleuol iawn ymysg beirniaid ar y dechrau, daeth bebop yn gynsail i jazz modern am weddill yr 20g, a bu arddull Parker o chwarae'r sacsoffon yn benodol a jazz yn gyffredinol yn ddylanwad enfawr ar genhedlaeth o gerddorion.
Recordiodd Parker nifer fawr o recordiau gyda cherddorion gan gynnwys Gillespie, Monk, Bud Powell a Miles Davis. Yn enwedig tua diwedd ei yrfa, roedd ei recordiau yn gynyddol lwyddiannus o ran gwerthiant; fodd bynnag, bu Parker yn dioddef drwy ei yrfa o drafferthion ariannol, yn bennaf oherwydd ei natur annibynadwy a'i gaethineb i heroin, a gyfrannodd at ei farwolaeth yn 1955 yn 34 oed yn unig. Dywedodd Miles Davis ohono, "You can tell the history of jazz in four words: Louis Armstrong. Charlie Parker."[5]
|deadurl=
ignored (help); Check date values in: |archivedate=
(help)