Cefin Roberts
Ganwyd28 Hydref 1953 Edit this on Wikidata
Llanllyfni Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, cerddor, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata

Awdur, actor, cyfarwyddwr theatrig a cherdd o Gymro yw Cefin Roberts (ganwyd 28 Hydref 1953).

Magwyd Cefin yn Llanllyfni, Dyffryn Nantlle ac yn byw ym Mangor. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu’n gweithio i Gwmni Theatr Cymru ym Mangor gan weithio o dan ofal Wilbert Lloyd Roberts yn ysgrifennu a chyfarwyddo.[1][2]

Fe sefydlodd Cefin y grwp poblogaidd "Hapnod" gyda'i wraig Rhian yn yr wythdegau cynnar. Fe ddarlledwyd tair cyfres o "Hapnod" - rhaglen adloniant ysgafn ar S4C yn yr 1980au.[3]

Gyrfa

Sefydlodd Ysgol Glanaethwy yn 1990 ym Mharc Menai, Bangor, yr ysgol berfformio cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Ymunodd â chriw cynhyrchu Rownd a Rownd yn 1995 ac roedd yn bennaf gyfrifol am fraslunio straeon i'r gyfres. Derbyniodd Gymrodoriaeth gan y Coleg Cerdd a Drama yn 1997 a Chymrodoriaeth gan Brifysgol Bangor yn 2001 am ei wasanaeth i fyd y theatr ac ym maes hyfforddi ieuenctid.[2] Bu'n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru rhwng 2003 a 2010.[4]

Yn 2003, enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau am ei nofel Brwydr y Bradwr.[2]

Bywyd Personol

Mae'n briod â Rhian Roberts ac mae'n dad i Mirain Haf a Tirion Anarawd.[2] Mae Mirain hefyd yn actores a chantores nodedig a cyhoeddwyd llyfr ffeithiol Cefin Roberts a Mirain Haf am y tad a'r ferch yn 2004.

Gwaith cyhoeddedig

Teitl Blwyddyn Gwasg Nodiadau
Brwydr y Bradwr 2003 Gwasg Gwynedd
Cymer y Seren 2009 Gwasg Gwynedd
Perffaith Chwarae Teg, Ysgol Glanaethwy 1990-2011 2011 Gwasg Carreg Gwalch Hanes Ysgol Glanaethwy, yng ngyfres 'Syniad Da'
Cofion, Cefin 2012 Gwasg y Bwthyn
Sgin Ti Fonolog 2018 Gwasg y Bwthyn
Os na ddon nhw 2019 Lolfa Nofel
Nadolig Pwy a Wyr 2 2019 Gwasg y Bwthyn Amlgyfrannog

Cyfeiriadau

  1. Rhestr Awduron - Llenyddiaeth Cymru Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.; Adalwyd 2015-12-16
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Y Fedal Ryddiaith i Cefin Roberts, Newyddion BBC; Adalwyd 2015-12-17
  3. Ysgol Glanaethwy - Cefin & Rhian Roberts Archifwyd 2015-08-17 yn y Peiriant Wayback.; Adalwyd 2015-12-16
  4. Cefin Roberts yn gadael y Theatr Genedlaethol, Golwg360; Adalwyd 2015-12-16