Math | coat |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Côt allanol a wneir gan amlaf o wlân glas tywyll (nefi)[1] yw caban (Saesneg: pea coat), siaced morwr[2] neu siaced fôr[2] a wisgir yn wreiddiol gan forwyr llyngesau gwledydd Ewrop ac yn hwyrach yr Unol Daleithiau.[3] Mae ganddynt labedi llydain, blaen â chaead dwbl, botymau mawrion o fetel neu bren, a phocedi fertigol neu letraws.[4]